Trawsnewid Tyisha - Cyfle Datblygu

5. Cynnydd hyd yn hyn

  • Cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth o atal troseddau, cyngor a chynlluniau
  • Cyflwyno tri chynllun Gwarchod Cymdogaeth
  • Gostyngiad o 34% mewn troseddau ers 2021
  • Amnest gwastraff yn ogystal ag ymgyrchoedd sbwriel a baw cŵn
  • Dull rhagweithiol o ymdrin â gwastraff a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig
  • Prynu eiddo mewn ardaloedd strategol i wella a chynyddu tai fforddiadwy
  • Datgomisiynu dau brosiect ieuenctid yn Heol yr Orsaf, gan wasgaru pobl ifanc yn gyfartal ar draws Llanelli
  • Dymchwel eiddo adfeiliedig a diangen i wneud lle ar gyfer llety teuluol newydd
  • Gwell llwybrau beicio
  • Rhaglen ymgysylltu gadarn sy'n cynnwys digwyddiadau cymunedol, y cyfryngau cymdeithasol, ymgyngoriadau a gwaith gydag ysgolion lleol
  • Buddsoddi mewn lle chwarae i wella iechyd a llesiant plant
  • Gweithio mewn partneriaeth i ddechrau rhaglen newydd o newid i gefnogi'r rhai ag anableddau a phroblemau iechyd