Gwyrddu Sir Gar
Prosiect Ymgeisydd: Cyngor Sir Gâr
Teitl y Prosiect: Gwyrddu Sir Gâr
Blaenoriaeth Buddsoddi: Cymuned & Lle
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Nod Gwyrddu Sir Gâr yw gwneud ein sir yn lle iachach i fyw, gweithio a chwarae drwy wella'r Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas a geir ledled ein tirweddau trefol a gwledig. Mae hefyd yn ceisio hyrwyddo'r defnydd o Atebion Seiliedig ar Natur i helpu i ddiogelu'r amgylchedd, gwella llesiant cymunedol, creu lleoedd gwell, a mynd i'r afael â'r argyfyngau Hinsawdd a Natur y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'u datgan yn flaenorol.
Drwy ddatblygu a chynorthwyo i weithredu polisi lleol, mae'r prosiect yn cynnwys mentrau a fydd yn:
- cefnogi iechyd a llesiant, a hyrwyddo cadwraeth bioamrywiaeth
- cynnwys cymunedau lleol wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau
- ymgorffori'r gwaith o greu lleoedd a chefnogi cydweithio rhwng preswylwyr, datblygwyr, a'r Cyngor
- diogelu ac integreiddio Seilwaith Gwyrdd a Glas i ddatblygiadau preswyl yn y dyfodol a busnesau presennol
- annog datblygiad yr economi werdd leol