Prosiect Darganfod: Datgelu Trigolion Cudd yn Sir Gaerfyrddin
Prosiect Ymgeisydd: Cyngor Sir Gâr
Teitl y Prosiect: Prosiect Darganfod: Datgelu Trigolion Cudd yn Sir Gaerfyrddin
Blaenoriaeth Buddsoddi: Cymuned & Lle
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Nod y prosiect hwn yw cyfoethogi bywydau trigolion a chymunedau nad yw gwasanaethau a gomisiynir fel arfer wedi gallu ‘cyrraedd’ nac ymgysylltu â nhw, er enghraifft pobl ynysig sy’n byw mewn ardaloedd gwledig iawn, oedolion gwrywaidd, a phobl nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Bydd y prosiect yn ariannu gweithwyr cymunedol ymroddedig i estyn allan a siarad â phobl i ddysgu beth sydd ei angen arnynt ac yna gweithio gyda nhw i ddod o hyd i atebion. Rydym am allu teilwra adnoddau a gwneud gwasanaethau a gomisiynir yn llawer mwy hygyrch a chroesawgar iddynt. Byddwn hefyd yn rhannu canfyddiadau’r prosiect gyda’n partneriaid cymunedol a statudol i’n helpu i gydweithio’n fwy effeithiol i gefnogi pobl.
Bydd yr hyn y byddwn yn ei ddysgu ynghylch y prosiect hwn yn bwydo'n uniongyrchol i Wasanaethau Ataliol Cymunedol ehangach Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n ceisio sicrhau bod ein holl drigolion yn gallu dechrau, byw a heneiddio'n dda mewn amgylchedd diogel a ffyniannus.