Canllaw i drefnwyr digwyddiadau

Waeth pa faint neu fath o ddigwyddiad rydych chi'n ei drefnu mae'r dywediad "os ydych yn methu â chynllunio, rydych yn cynllunio i fethu" yn fwy priodol nawr nag erioed. Mae cynllunio digwyddiadau yn enwog am fod yn aml-ddimensiwn, felly rydym wedi paratoi set o ganllawiau cam wrth gam a fydd yn rhoi sylfaen gadarn i unrhyw drefnydd.

Mae cyfyngiadau amser yn berthnasol i rai o'r materion hyn, megis cau ffyrdd a thrwyddedu, felly croesawn drafodaeth cyn gynted â phosibl, anfonwch e-bost i marketingandmedia@sirgar.gov.uk.