Gwelyau haul
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/07/2025
Mae Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 yn gosod rhai gofynion ar weithredwyr gwelyau haul, gan gynnwys:
- gwahardd pobl dan 18 oed rhag eu defnyddio
- gwaharddiad ar salonau heb staff
- sicrhau goruchwyliaeth ddigonol a bod hysbysiadau statudol a thaflenni gwybodaeth ar gael
Mae deddfwriaeth Ewrop yn pennu lefel ‘ddiogel’ o belydriad uwchfioled o diwbiau'r gwely haul (0.3 W/m2). Os yw'r lefelau yn uwch na hyn, yna mae'r offer o bosibl yn ‘anniogel’ ac yn groes i Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005.
Rydym yn archwilio safleoedd yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith ac i amddiffyn defnyddwyr rhag dod i gysylltiad â lefelau uchel o ymbelydredd sydd o bosibl yn niweidiol. Cysylltir â busnesau cyn cynnal ymweliad a rhoddir tystysgrif iddynt os bydd eu gwely yn cydymffurfio. Bydd yn ofynnol i'r rheiny nad ydynt yn cydymffurfio gymryd camau i sicrhau bod y gwelyau o fewn y terfyn a ganiateir.
I roi gwybod i ni o weithrediad gwelyau haul, ffoniwch 01267 234567 neu ebostiwch: safonaumasnach@sirgar.gov.uk.