Pam yr ydym wedi ymgynghori

Y gofyniad statudol yw darparu addysg amser llawn o 5 oed. Sir Gaerfyrddin yw'r unig Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd â pholisi Codi'n 4 oed. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i gael mynediad amser llawn i ysgolion cynradd yn ystod y tymor ysgol pryd maent yn cael eu pen-blwydd yn bedair oed, yn hytrach na'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed, neu'r mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed; mae'r ddau arfer hyn yn gyffredin ledled Cymru.

Mae’r ddogfen Adolygu Derbyniadau Ysgolion Cynradd (plant sy’n Codi 4 oed) a gyflwynwyd i gyfarfod Cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin ar 9fed Hydref 2023 ar gael yma, cyfeiriwch at eitem 5 ar yr Agenda (tudalen 29-46) (Public Pack)Agenda Document for Education, Young People & the Welsh Language Scrutiny Committee, 09/10/2023 10:00 (gov.wales)

Rydym yn rhagweld y bydd pryderon yn cael eu mynegi y bydd addysg llawn amser I blant yn cael ei gohirio.  Mae gan pob plentyn 3 oed hawl i 10 awr yr wythnos o leoliad am ddim, mewn lleoliad cofrestredig, trwy’r Grŵp Hawliau Cynnar o’r tymor yn dilyn eu penblwydd yn dair oed.

Mae gwahanol fathau o ddarpariaeth:

  1. Ysgol Feithrin – Ysgol Feithrin Rhydaman yw’r unig ysgol feithrin yn y Sir.
  2. Dosbarthiadau Meithrin/Blynyddoedd Cynnar mewn ysgolion babanod neu cynradd (ysgolion 3 – 11 oed)
  3. Darpariaeth gan y sector nas cynhelir sy’n bartneriaid yn y Grŵp Hawliau Cynnar, megis Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru Mudiad Meithrin a darparwyr preifat.

Yn mis Hydref 2023 cwblhawyd dadansoddiad bwlch i nodi’r ddarpariaeth cyn-ysgol sydd ar gael ar draws pob ysgol.  Nododd y dadansoddiad ddiffygion posibl mewn rhai cymunedau ac ysgolion.  Mae’r ddogfen Adolygiad Derbyniadau i Ysgolion Cynradd (plant sydd yn Codi 4 oed) a gyflwynwyd i gyfarfod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ar yr 11eg Rhagfyr 2023 ar gael yma.  Cyfeiriwch at eitem 12 ar yr Agenda (tudalen 191-202) (Public Pack)Agenda Document for Cabinet, 11/12/2023 10:00 (gov.wales)     

Rhagwelir y bydd pryderon yn cael eu mynegi lle mae darpariaeth amgen gyfyngedig ar gyfer plant na allant ddechrau ysgol gynradd yn llawn amser fel ar hyn o bryd.  Efallai y bydd angen ystyried newid yr ystod oedran ysgol i 3 – 11 yn unol â blaenoriaethau strategol eraill.  Bydd angen cwblhau proses statudol Sir Gaerfyrddin o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion (2018).

Nôd Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg (CSGmA) 2022 – 2032 yw hwyluso cynnydd yn nifer y bobl o bob oed sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.  Mae Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg (CSGmA) Sir Gaerfyrddin yn gyfrwng allweddol i greu system cynllunio gwell ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg.  Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma: Welsh in Education Strategic Plan (gov.wales)

Rhagwelir y  bydd pryderon o bosibl yn cael eu mynegi am ddisgyblion Cymraeg a fydd yn derbyn addysg llawn amser yn yr ysgol na fyddant efallai’n gallu cael mynediad i ddarpariaeth  cyfrwng Cymraeg trwy ddarparwyr Meithrin allanol.

Rydym yn ymwybodol mai’r risg fwyaf i ddarpariaeth feithrin yn gyffredinol yw recriwtio staff a gallai hyn hefyd gael effaith negyddol ar leoedd gofal plant cofrestredig cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Mae Mudiad Meithrin  yn gweithio’n agos gyda Sir Gaerfyrddin i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Mae ystod o gymorth ychwanegol ar gael i rieni i ddatblygu sgiliau Cymraeg plant. https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/bilingual-education/

Ar adeg pan fo gwariant refeniw o dan bwysau eithriadol, gellid ail-flaenoriaethu cyllido disgyblion amser llawn anstatudol mor ifanc er mwyn ariannu swyddogaethau statudol eraill o'r gyllideb a ddirprwyir i ysgolion. Felly, rydym yn cynnig cael gwared ar y polisi plant sy'n codi'n 4 oed.  Daw'r cynnig i rym o fis Medi 2025 ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022.  Bydd dysgwyr meithrin rhan-amser mewn ysgolion 3 i 11 yn gallu aros yn y ddarpariaeth hon hyd nes eu bod yn gymwys i gael lle amser llawn.

Canlyniad yr ymgynghoriad

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a phenderfyniad gan y Cabinet, mae trefniadau derbyn ysgolion ar gyfer plant pedair oed yn newid yn Sir Gaerfyrddin. O fis Medi 2025 bydd plant yn dechrau addysg llawn-amser y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed yn hytrach na'r tymor pan fyddant yn troi'n bedair oed. 

Mae hyn yn golygu y bydd plant sy'n mynychu ysgolion 3-11 oed ac sy'n derbyn addysg ran-amser yn aros mewn addysg ran-amser am gyfnod hirach nag y maent o dan y polisi presennol.

Bydd y newid hwn ond yn effeithio ar blant a gafodd eu geni ar neu ar ôl 1 Medi 2021. Ni fydd unrhyw newid i blant sy'n dechrau addysg ran-amser neu lawn-amser cyn 1 Medi 2025.

Rhagor o Wybodaeth