Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/04/2024

O fis Gorffennaf bob blwyddyn, rydym yn cysylltu â phob aelwyd yn Sir Gaerfyrddin i gadarnhau pwy sy'n byw yn y cyfeiriad. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i ni allu gwirio pwy sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio, ac i ddiweddaru ein cofrestr etholiadol. Canfasiad Blynyddol yw'r enw ar hwn.

Byddwn yn anfon llythyr atoch drwy'r post neu drwy e-bost yn dibynnu ar y wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer. Darllenwch hwn yn ofalus, bydd yn dweud wrthych a oes angen mwy o wybodaeth arnom gennych.

Sut i ymateb

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o ymateb yw ar-lein - Ewch i https://www.elecreg.co.uk/carmarthenshire/cy-GB a mewngofnodwch gan ddefnyddio'r manylion rydym wedi'u darparu i chi ar y ffurflen. Dyma lle byddwch yn gallu cadarnhau neu newid eich manylion.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ychwanegu manylion unrhyw un sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad, os nad ydym wedi eu cynnwys nhw ar ein ffurflen. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd dros 14 oed.

Os ydym wedi anfon ffurflen wag atoch drwy'r post, mae hyn yn golygu nad oes gennym unrhyw wybodaeth am y bobl sy'n byw yn y cyfeiriad. Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar-lein neu ei hanfon yn ôl atom drwy'r post. Os yw'r eiddo'n wag, bydd dal angen i chi lenwi'r ffurflen i gadarnhau nad oes unrhyw un yn byw yn y cyfeiriad.

Cartrefi gofal, cartrefi nyrsio ac ysbytai

Os ydych yn rheoli cartref gofal, cartref nyrsio neu lety ysbyty, byddwn yn anfon llythyr atoch a fydd yn cynnwys rhestr o'ch holl breswylwyr. Y ffordd hawsaf i gadarnhau'r manylion yw ar-lein. Fodd bynnag, os hoffech gynnwys manylion ychwanegol ar gyfer eich preswylwyr, megis rhoi gwybod i ni os oes ganddynt ddementia, cwblhewch y ffurflen bapur a'i hanfon yn ôl atom gan ddefnyddio'r amlen ragdaledig.

Mae'n rhaid i chi ymateb yn ôl y gyfraith

Hyd yn oed os ydych wedi pleidleisio yn yr etholiadau diweddar mae dal rhaid ichi ymateb i'r ffurflen hon os oes angen gwybodaeth bellach arnom gennych.

Os na fyddwn yn derbyn ymateb gennych, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch drwy'r post, dros y ffôn neu drwy ymweld â'ch eiddo. Mae'n bwysig i chi ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani, ac os nad ydych yn gwneud hynny mae rheolau'r Llywodraeth yn golygu y gallech chi gael dirwy o £1000.