Sesiynau galw heibio i'ch helpu i ddefnyddio eich dyfais

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/05/2024

Sesiynau galw heibio i'ch helpu i ddefnyddio eich dyfais: ffôn, llechen neu liniadur

Os ydych chi ychydig yn ansicr ynglŷn â deall sut y mae eich dyfais yn gweithio a sut i'w defnyddio, yna gallwn eich helpu i fynd i'r afael â hynny ... gallwn eich helpu i ddeall diweddariadau meddalwedd, cyrchu gwasanaethau, a chael dealltwriaeth gyffredinol fel dyfais ddefnyddiwr – dewch â’ch ffôn/llechen/gliniadur gyda chi i sesiwn galw heibio digi-lit.

Mae sesiynau galw heibio Digi-lit yn anffurfiol, yn gyfeillgar ac yn gefnogol – dyma gyfle i gael cymorth un-i-un a chyfle i ofyn cwestiynau a chael ateb i broblemau penodol yn ymwneud â’r byd digidol, a hynny mewn amgylchedd hamddenol – nid ystafell wely draddodiadol mohoni a bydd te a choffi ar gael.

Mae cyfle hefyd i roi cynnig ar ein dyfeisiau os nad ydych eisoes wedi gwneud a phrynu un eisoes - gallwch roi cynnig ar liniadur, chromebook, iPad, llechen Samsung, iPhone neu draciwr ffitrwydd i weld beth allai weithio i chi.

Sut i gofrestru?

Os ydych yn ddysgwr newydd neu os oes gennych ymholiad, ffoniwch 01267 235413 neu anfonwch e-bost i roi gwybod i ni wybod eich bod yn dod... neu galwch heibio!

Bydd angen i bob dysgwr gofrestru i gymryd rhan - bydd hyn yn cynnwys llenwi ffurflen a darparu cerdyn adnabod â llun (pasbort, trwydded yrru ac ati). Os nad oes gyda chi gerdyn adnabod â llun, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich helpu.

Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, a gallwch fynychu un sesiwn yn awr ac yn y man neu un bob wythnos.

Ein nod yw darparu pob dosbarth a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid dosbarthiadau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl.