Gofal cymdeithasol
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023
Gwybodaeth, adnoddau, hyfforddiant a chymorth. Yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru, gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.
Autside: Arbenigwyr mewn awtistiaeth sy'n cynnig hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chefnogaeth.
Gwasanaeth Plant Sir Gaerfyrddin - Cymorth i'r rheiny sy'n poeni am ddiogelwch plentyn.
Mae'r Tîm Cymorth Cynnar yn rhoi cymorth i blant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth a'u teuluoedd. Rydym yn cynnig gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn y tymor byr, a'n nod yw cynorthwyo plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i oresgyn heriau a chyflawni eu potensial.
Pwy maent yn helpu
- Pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin
- Rhaid i chi fod rhwng 0 a 25 oed
- Rhiant/gofalwr rhywun sydd rhwng 0 a 25 oed
- Plant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth (wedi cael diagnosis neu heb gael diagnosis) a'u teuluoedd
Beth maent yn gallu ei gynnig
- Cynllun cymorth y byddwn yn ei ddatblygu gyda'n gilydd ac yn ei adolygu yn ôl yr angen
- Cymorth pwrpasol o ran anghenion synhwyraidd, cydnerthedd, dulliau ymarferol o reoli ymddygiad a gorbryder.
- Gallwn eich helpu i gamu ymlaen i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant
- Gallwn eich helpu chi a'ch teulu i nodi gweithgareddau, cymorth a gwasanaethau perthnasol yn y gymuned a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich nodau.
- Gallwn eich helpu i ddeall mwy am eich anabledd/awtistiaeth.
Mae’r Tîm Camau Bach yn rhan o'r Tîm Cymorth Cynnar ac mae'n gallu cynnig cymorth yn y tymor byr i rieni sydd â phlentyn anabl rhwng 0 ac 16 oed.
Gall hyn gynnwys cymorth gyda chyfathrebu, cysgu, gallu dal dŵr, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd. Maent yn cynnig:
- Cymorth yn y cartref.
- Cymorth Cyn-ysgol
- Gweithdai Anableddau.
- Cymorth grŵp i rai rhwng 0 ac 16 oed; megis boreau coffi, Gweithdai Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol a grwpiau cymorth i blant ac ati.
Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Anabledd - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Rhif Ffôn – 01267 246673
Cyfeiriad e-bost: disabilityreferrals@sirgar.gov.uk
Tîm Anableddau 0-25
Mae gwirfoddolwyr gweithgar y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnig cymorth, gwybodaeth a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant awtistig a'u teuluoedd yn eu hardal leol.
Tudalen Facebook Cangen Sir Gaerfyrddin
Cyfeiriad e-bost: carmarthenshire.branch@nas.org.uk
Mae Plant Dewi yn sefydliad sy'n rhoi cymorth i deuluoedd sydd â phlant rhwng 0 ac 11 oed. Maent yn cynnig cymorth i rieni, cyrsiau rhianta, gwybodaeth ynghylch ffordd iach o fyw a gweithgareddau diogelwch yn y cartref, ac yn meithrin hyder.
Rhif ffôn: 01267 221551
Os ydych yn poeni am eich plentyn, yn profi straen ynghylch rhianta neu'n ei chael hi'n anodd cael mynediad i wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin, gall y Tîm o Amgylch y Teulu (TAT) ddod â'r bobl iawn ynghyd i'ch helpu chi.
Rhif ffôn: 01267 246555 (Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd)
Cyfeiriad: Y Tîm o Amgylch y Teulu
Cymorth i Deuluoedd, Plant ac Addysg
Adeilad 2, Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
SA31 3HB
Cyfeiriad e-bost: TAF@sirgar.gov.uk
Mae Home-Start Cymru yma i gefnogi teuluoedd ar draws Sir Gaerfyrddin, gan gynnig cymorth a arweinir gan wirfoddolwyr i deuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf. Rydym yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i fagu hyder a hunan-barch trwy ymweliadau cartref yn y gymuned - gan helpu rhieni i gael mynediad i adnoddau lleol.
CYSYLLTWCH Â NI
E-bost: westregion@homestartcymru.org.uk
Tecstiwch: 07423 618081