Newyddion a Digwyddiadau
YDYCH CHI WEDI YSTYRIED DOD YN ARWEINYDD IAU?
Ydych chi eisiau ennill sgiliau arweinyddiaeth, rhoi hwb i'ch hyder a chael effaith go iawn yn eich cymuned?
Fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (23-29 Mehefin), rydym yn lansio ein Rhaglen Arweinwyr Iau newydd mewn partneriaeth â chynllun Volunteens Foothold Cymru. Mae cynllun Volunteens yn cydnabod cyfraniad, amser a gwaith caled ein Harweinwyr Iau.
Bydd eich amser gwirfoddoli yn cael ei gydnabod gan Raglen Volunteens, a byddwch yn cael cyfle i gyflawni Cymhwyster Hyfforddiant Arweinyddiaeth Iau.
Dyma rai o'r rhesymau gwych y dylech chi wirfoddoli mewn clwb ieuenctid:
- Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gefnogi achos sydd yn agos at eich calon ac o ddysgu pethau newydd yr un pryd
- Gallwch chi ddatblygu eich profiad a'ch sgiliau wrth feithrin eich hyder
- Byddwch chi'n cwrdd â phobl newydd ac yn gweithio fel rhan o dîm gwaith ieuenctid
- Byddwch chi'n rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid
- Gallwch chi gael hwyl a bod yn rhan o'ch cymuned
- Byddwch chi'n teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a gwneud gwahaniaeth
- Byddwch chi'n cyfrannu tuag at gynllunio a gwerthuso rhaglen y clwb ieuenctid a'i weithgareddau
Beth sydd eai ngen i ddod yn arweinydd iau mewn clwb ieuenctid:
I ddod yn Arweinydd Iau:
- bydd gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc
- bydd gennych chi amser i wirfoddoli mewn clwb ieuenctid
- byddwch chi rhwng 16 a 25 oed. (Os ydych yn hŷn na 18 oed bydd angen i chi lenwi ffurflen Cynllun Datgelu a Gwahardd (DBS))
- eisiau dysgu a chymryd rhan mewn hyfforddiant
- bod yn ddibynadwy, dilyn rheolau a bod yn esiampl gadarnhaol ar gyfer aelodau iau.
- llenwi ffurflen gais (bydd gweithiwr ieuenctid yn eich helpu chi gyda hyn)
COFRESTRWCH HEDDIW!
I gofrestru, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach nad ydym wedi'u hateb yma, dewch i siarad â'ch Gweithiwr Ieuenctid neu anfonwch e-bost atom cyfranogiad@sirgar.gov.uk.
Ddod o hyd i'ch clwb ieuenctid lleol
- Lleoliad: Sir Caerfyrddin