Mannau Cynnes

Cwtsh Cymunedol

Mae Canolfan y Dywysoges Gwenllian ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am-2.30pm i bobl alw heibio ac ymlacio yn ein man cynnes Cwtsh Cymunedol.

Mae modd defnyddio'r Wi-Fi, y cyfrifiaduron cyhoeddus, y llyfrgell a'r derfynell am ddim.

O 10.30am-1pm mae diodydd twym a sŵp cartref i'ch cynhesu ar gael (os byddwch yno'n gynt, gofynnwch i'r staff am baned a byddwn yn hapus i wneud un i chi). Mae gennym wasanaethau cymorth rheolaidd - mae gweithwyr allgymorth yn galw heibio, ac mae staff y ganolfan bob amser ar gael i'ch cyfeirio i'r cymorth perthnasol os ydych chi eisiau. Mae croeso i bawb yma - gan gynnwys cŵn sy'n bihafio! Byddwn yn cynnal gweithdai celf a chrefft, coginio a garddio'r gaeaf hwn, a byddwn yn eu hysbysebu i gyd yn eu tro. Mae Hwb Bach y Wlad a

Gweithio Sir Gaerfyrddin yn ymweld unwaith y mis ac mae rhestr fanylach o'r cymorth sydd ar gael ar ei ffordd! Yr unig beth rydym yn gofyn i chi ei wneud yw bod yn garedig ac yn gwrtais i rai eraill sy'n defnyddio'r neuadd ac i staff. Methu aros i'ch gweld chi!

  • Amser: Dydd Llun- Dydd Gwener 9:30am - 2:30pm
  • Lleoliad: Neuadd Gwenllian, Hillfield Villas, Cydweli, SA17 4UL