Aelodau FfMLl
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/10/2024
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd a etholwyd yn unol â rheoliadau FfMLl. Lleiafswm o 10 ac uchafswm o 20 o aelodau eraill, sy’n gorfod cynnwys cynrychiolaeth gytbwys o ddefnyddwyr mynediad hamdden, tirfeddianwyr a deiliaid, ynghyd â chynrychiolaeth o fuddiannau eraill sy’n arbennig o berthnasol i’r ardal.
Bydd yr aelodaeth yn gytbwys fel nad oes un grŵp o fuddiannau yn arglwyddiaethu, cynrychioli croestoriad o fuddiannau yn yr ardal, byw neu’n gweithio o fewn yr ardal neu â gwybodaeth drylwyr am yr ardal.
Bydd disgwyl i aelodau:
- Lynu at yr adrannau sy’n ymwneud â Fforymau Mynediad Lleol yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rheoliadau perthnasol a’r Cylch Gorchwyl hwn
- Dangos ymrwymiad i gyrraedd nodau’r FfMLl drwy weithio’n adeiladol gydag aelodau eraill
- Gallu rhoi’r amser angenrheidiol i fynychu cyfarfodydd a rhwydweithio y tu allan i gyfarfodydd
- Bod â digon o brofiad o fynediad i gefn gwlad yn yr ardal leol i allu gwneud cyfraniad cytbwys ac adeiladol i wella’r ddarpariaeth mynediad
- Gallu gweithio gydag ystod eang o grwpiau buddiannau.