Trawsnewid Tyisha - Cyfle Datblygu
6. Y ffordd ymlaen
Rydym yn chwilio am bartner i gyflawni prosiect sy'n integreiddio'r ardal ehangach ac sy'n cefnogi amcanion adfywio Tyisha ac sy'n hyrwyddo buddsoddiad pellach a hyder yn y ward. Bydd angen i'r datblygwr fod yn greadigol yn ei ddyluniadau gan sicrhau ei fod yn bodloni dyheadau'r gymuned yn ogystal ag egwyddorion allweddol creu lleoedd.
Rydym am i'r datblygiadau gynnwys tai fforddiadwy a chynaliadwy gyda dyluniadau a thechnolegau arloesol i wneud y cartrefi'n gynnes ac yn ddeniadol. Mae angen i ni gyrraedd amrywiaeth o ddeiliadaeth gan greu cymuned gytbwys y mae preswylwyr yn falch o fod yn rhan ohoni. Mae angen mannau gwyrdd deniadol â gwyliadwriaeth naturiol sydd wedi'u cynllunio'n ofalus i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae gan Dyisha orffennol hanesyddol, a bydd angen ymgorffori agweddau ar hyn a'u hadlewyrchu yn y dyluniad a'r adeiladwaith.
Er ein bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid a'r gymuned i ddarparu gwell gwasanaethau lleol, nid oes amheuaeth y bydd angen buddsoddiad sylweddol ac ailfodelu ar y stoc dai bresennol a'r amgylchedd cyfagos hefyd, gan wneud hwn yn gyfle buddsoddi manteisiol.
Gyda'r datblygiadau mewn lleoliad canolog yn agos i ganol y dref a Phentre Awel, bydd Tyisha yn gyfle cyffrous i unrhyw ddatblygwr. Rydym am sicrhau ein bod yn cael y datblygiadau hyn yn iawn a bydd angen i'r datblygwr weithio gyda ni i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer dyfodol cynaliadwy i Dyisha. Gyda hirhoedledd wrth wraidd ei dyluniad byddwn yn trawsnewid y ward gyda'n gilydd er budd yr agweddau cymdeithasol ac economaidd.
Bydd angen i'n partner datblygu ystyried:
- Cyfleoedd preswyl a photensial masnachol ar draws y pum safle
- Canolbwyntio ar gartrefi teuluol dwy, tair a phedair ystafell wely
- Potensial ar gyfer byngalos gan ystyried cyfleusterau wedi'u haddasu
- Potensial i ailddatblygu safleoedd a lle nad oes modd darparu llety teuluol; ystyried fflatiau sydd â defnydd penodol ac sy'n cael eu hystyried yn y Polisi Gosodiadau Lleol (ar gyfer pobl hŷn neu'r rhai sy'n gweithio yn yr ardal)
- Potensial ar gyfer dros 100 uned llety ar draws y pum safle
- Polisi gosodiadau cadarn sydd â chydbwysedd dyraniad ac sy'n rhoi blaenoriaeth i'r rhai sy'n byw yn Nhyisha neu sydd â chysylltiad â'r ardal (yn unol â Pholisi Dyrannu Cyngor Sir Caerfyrddin)
- Cydbwysedd deiliadaeth gymysg gydag opsiynau tai cymdeithasol, perchnogaeth cost isel a phrynu'n llwyr
- Ystyried dyheadau'r gymuned yn ogystal â'r angen presennol a chydbwysedd y llety presennol
- Dyluniadau yn unol â'r ardal leol a'r eiddo cyfagos gan ystyried yr estheteg a'r hanes lleol
- Archwilio cyfyngiadau ar ddefnydd eiddo yn y sector rhentu preifat yn y dyfodol
- Cartrefi â systemau gwresogi effeithlon, modern ac adnewyddadwy sy'n cydymffurfio ag egwyddorion carbon sero net y Cyngor
- Archwilio opsiynau ar gyfer darpariaethau rheoli gwastraff digonol sy'n annog amgylchedd lleol glân ac iach ac yn lleihau'r risg o dipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cynnal, gwella ac annog bioamrywiaeth drwy gydol y gwaith cynllunio, dylunio ac adeiladu
- Rheoli tir a fydd yn helpu i leddfu llifogydd drwy blannu a chynnal coed a llwyni
- Ystyried opsiynau naturiol ar gyfer ffiniau eiddo
- Mannau gwyrdd o ansawdd uchel a llecynnau hamdden ar gyfer pob oedran
- Ailddefnyddio deunyddiau y gellir eu hailgylchu, er enghraifft defnyddio brics wedi'u hadfer o adeiladau hanesyddol yn y datblygiad
- Datblygu cynaliadwy sy'n ystyried dulliau Diogelu Drwy Ddylunio
- Hyrwyddo symud cynaliadwy drwy lwybrau diogel, mesurau rheoli traffig, croesawu beicwyr a chroesfannau gwell. Sicrhau bod cysylltiadau hefyd yn cael eu gwneud â llwybrau teithio llesol presennol, gan wella cysylltiadau rhwng yr orsaf reilffordd, canol y dref a Phentre Awel
- Digon o leoedd parcio oddi ar y ffordd i breswylwyr ac ymwelwyr
- Ystyried systemau teledu cylch cyfyng mewn unrhyw ardaloedd cymunedol gan gynnwys mannau storio biniau er mwyn lleihau tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Ardaloedd cerdded wedi'u goleuo'n dda
- Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a dilyn y weledigaeth a'r dyheadau cymunedol
- Ystyried pwysigrwydd strategol Tyisha mewn perthynas â Phentre Awel a chanol y dref
- Annog teithio llesol ac ystyried darpariaethau ar gyfer ardaloedd beiciau sydd wedi'u cloi
- Cynllun ymgysylltu cadarn drwy gydol y broses ddatblygu
- Ystyried datblygu Hwb Cymunedol a allai hefyd wasanaethu fel swyddfa leol i'r datblygwr
- Gerddi cymunedol wedi'u rheoli gyda chyfleoedd ar gyfer lle tyfu lleol, addysg ac ymgorffori dulliau Diogelu Drwy Ddylunio
- Defnyddio contractwyr lleol a chyfleoedd i fentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, preswylwyr a grwpiau cymunedol gymryd rhan
- Defnyddio contractwyr lleol sy'n gallu darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a datblygu
- Darparu cyfleoedd i'r gymuned leol gan gynnwys busnesau fynegi eu barn am y syniadau a'r dyluniadau datblygu
- Sicrhau bod prisiau tai yn fforddiadwy i'r gymuned