Pa mor ymarferol yw'r digwyddiad?
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/10/2023
Ar ôl nodi a diffinio holl elfennau'r digwyddiad, mae angen ystyried dichonoldeb y digwyddiad arfaethedig. Yn fras, mae tri maes sy'n effeithio ar ddichonoldeb digwyddiadau, ac fe'i rhestrir isod:
- Ffactorau'r farchnad sy'n effeithio ar ddichonoldeb: Marchnad darged, y galw, cyflenwad, cystadleuaeth, ac ati.
- Ffactorau gweithredol sy'n effeithio ar ddichonoldeb: Argaeledd lleoliad, sgiliau sy'n ofynnol, adnoddau, trwyddedau a hawlenni, ac ati.
- Ffactorau ariannol sy'n effeithio ar ddichonoldeb: Costau a refeniw a ragwelir, ffynonellau cyllid, ac ati.
Ar ôl ystyried y meysydd uchod, mae'n arfer cyffredin cynnal dadansoddiad SWOT sy'n nodi Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau. Mae cryfderau a gwendidau yn faterion sy'n ymwneud â chysyniad y digwyddiad a'r sefydliad sy'n ei gynnal. Mae cyfleoedd a bygythiadau yn faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd allanol yr ydych chi'n byw ynddo. Mae modd chwilio ar-lein, a chewch hyd i ystod o dempledi ar gyfer cynnal dadansoddiad SWOT.
Yn dilyn eich dadansoddiad SWOT, y canlyniadau fyddai bwrw ymlaen â'r cysyniad fel y'i diffiniwyd, gohirio'r digwyddiad i ddyddiad hwyrach pan fydd yn ymarferol, rhoi'r gorau i gynllunio'r digwyddiad neu newid y digwyddiad ar sail marchnad, gweithredol neu ariannol.
Trefnu digwyddiadau
Canllaw i drefnwyr digwyddiadau
- Trwyddedu ar gyfer digwyddiadau
- Creu eich tîm digwyddiadau
- Adnabod a rheoli rhanddeiliaid
- Nodau ac amcanion y digwyddiad
- Cytuno ar Pam, Sut a Phryd
- Pa mor ymarferol yw'r digwyddiad?
- Lleoliad yn Fanwl
- Cynllunio ariannol a dadansoddi
- Marchnata a hyrwyddo
- Rheoli y digwyddiad
- Gwerthuso ac adrodd ar ddigwyddiadau