Trefnu digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin
Diweddarwyd y dudalen ar: 16/08/2024
P'un a ydych yn trefnu digwyddiad i'w gynnal ar dir y Cyngor neu dir preifat, rhaid i chi sicrhau bod gennych ganiatâd i wneud hynny a dilyn y cyngor ar y tudalennau hyn.
Digwyddiadau ar dir y Cyngor
Os bydd eich digwyddiad yn digwydd ar dir Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd. Mae angen i chi ofyn am ganiatâd beth bynnag fo maint y digwyddiad. Rhaid derbyn caniatâd cyn i'r digwyddiad gael ei hysbysebu.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir yn y lleoliadau canlynol:
- Parc Gwledig Pen-bre (gan gynnwys Cae Mynachod, Cae Saethyddiaeth, Llwybrau, Y Ganolfan Sgïo a'r ganolfan weithgareddau)
- Meysydd Gŵyl Llanelli
- Llwybr Arfordirol y Mileniwm
- Parc Gwledig Llyn Llech Owain
- Mynydd Mawr
- Ynysdawela
- Doc y Gogledd
- Harbwr Porth Tywyn
- Gofod Digwyddiadau Pentywyn
- Canol tref Caerfyrddin
- Canol tref Rhydaman
- Canol tref Llanelli
- Parciau cymunedol
Er enghraifft, gall digwyddiadau gynnwys:
- Digwyddiadau cerddoriaeth
- Digwyddiadau chwaraeon
- Ffeiriau
- Gwyliau bwyd
- Rasys ffordd
- Gwyliau cwrw
- Lle masnach
- Teithiau cerdded er elusen
- Rasys hwyl
- Carnifalau
- Digwyddiadau cymunedol
- Digwyddiadau Elusennol
I drefnu digwyddiad yn un o'r lleoliadau hyn, rhaid i chi gyflwyno cais drwy'r ddolen isod i gael caniatâd i gynnal eich digwyddiad/gweithgaredd.
Gall llogi'r safle yn amodol ar dalu ffi neu fond, i'w gymeradwyo gan y Rheolwr Hamdden Awyr Agored. Yn ogystal bydd angen i bobl sy'n mynychu digwyddiadau dalu ffioedd parcio mewn rhai o'r lleoliadau.
Mae'r ffurflen gais hon wedi'i chynllunio i gefnogi trefnwyr digwyddiadau i gynnal digwyddiadau yn esmwyth ac yn ddiogel, gan sicrhau bod yr holl drwyddedau a chaniatâd angenrheidiol ar waith a'ch bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol drwy un pwynt cyswllt.
Mae gennym rai dolenni a thempledi defnyddiol y gellir eu defnyddio fel rhan o'ch proses ymgeisio.
Digwyddiadau eraill (nid ar dir y Cyngor)
Ar gyfer pob digwyddiad arall sy'n digwydd o fewn ffiniau Sir Gaerfyrddin (ond nid ar dir y Cyngor), dylech hysbysu'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch (SAG).
Mae'r SAG yn sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel a bod yr holl asiantaethau perthnasol yn y sir yn ymwybodol ohono. Mae hyn yn cynnwys timau amrywiol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, y gwasanaethau brys, a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Ar gyfer sawl math o ddigwyddiadau sy'n cynnwys niferoedd mawr, mae llawer iawn o waith trefnu i'w wneud ac mae'r SAG yn gofyn am 9 mis o rybudd ar gyfer digwyddiadau sy'n debygol o ddenu mwy na 500 o bobl. Mae angen tri mis o rybudd ar gyfer digwyddiadau gyda llai na 500 o bobl.
Drwy rannu'r hyn sy'n digwydd gyda'ch digwyddiad, gall y rhanddeiliaid sicrhau bod digon o adnoddau ar gael pe bai rhywbeth yn digwydd lle byddai angen eu gwasanaethau o bosib.
Efallai y bydd rhai mathau o ddigwyddiadau yn gofyn i chi fynychu un o'r cyfarfodydd SAG i drafod eich cynigion yn fanylach. Mae'n annhebygol y bydd digwyddiadau llai eraill yn gofyn i chi fynychu cyfarfod.
Nid yw'r broses SAG wedi'i chynllunio i roi caniatâd ar gyfer eich gweithgaredd ond mae wedi'i chynllunio i gefnogi'r broses o gyflwyno'ch digwyddiad yn ddiogel.
Trefnu digwyddiadau
Canllaw i drefnwyr digwyddiadau
- Trwyddedu ar gyfer digwyddiadau
- Creu eich tîm digwyddiadau
- Adnabod a rheoli rhanddeiliaid
- Nodau ac amcanion y digwyddiad
- Cytuno ar Pam, Sut a Phryd
- Pa mor ymarferol yw'r digwyddiad?
- Lleoliad yn Fanwl
- Cynllunio ariannol a dadansoddi
- Marchnata a hyrwyddo
- Rheoli y digwyddiad
- Gwerthuso ac adrodd ar ddigwyddiadau
Mwy ynghylch Trefnu digwyddiadau