Anghenion dysgu ychwanegol: Y broses o wneud penderfyniadau

4. Beth yw Cynllun Datblygu Unigol?

Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc sydd ag angen a nodwyd sy'n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol Gynllun Datblygu Unigol  gorfodol. Bydd plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr yn cyfrannu at greu a chynnal CDUau drwy gyfarfodydd/adolygiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Bydd CDU ar gyfer plant o dan oedran ysgol orfodol, sydd eu hangen, h.y. yn y blynyddoedd cynnar, yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.

Bydd y rhan fwyaf o'r CDUau ar gyfer plant a phobl ifanc oedran ysgol yn cael eu cynnal gan ysgol.  Mewn rhai achosion, bydd yr Awdurdod Lleol yn gwneud penderfyniadau ynghylch paratoi a chynnal CDUau os :

  • oes gan y plentyn/person ifanc gyflwr prin sy'n gofyn am gymorth arbenigol na all yr ysgol ei ddarparu'n rhesymol;
  • oes angen cyngor a chymorth rheolaidd ar yr ysgol gan asiantaethau allanol yn ychwanegol at yr hyn y gellir ei drefnu'n rhesymol ac;
  • oes angen offer ar y plentyn/person ifanc na ellir ond ei ddefnyddio gan un disgybl neu na ellir ei ailddefnyddio neu sydd y tu hwnt i adnoddau rhesymol yr ysgol;
  • oes angen cymorth dyddiol dwys iawn ar y plentyn/person ifanc na all yr ysgol ei sicrhau'n rhesymol drwy gyllideb ddirprwyedig yr ysgol;
  • yw’r plentyn yn Derbyn Gofal;
  • plant/pobl ifanc sydd wedi'u cofrestru'n ddeuol.

Bydd gan CDU a gynhelir gan ysgol ac a gynhelir gan awdurdod lleol yr un statws statudol yn union.

Bydd pob CDU yn cynnwys rhai elfennau allweddol ac mae ganddynt yr un strwythur sylfaenol, gan gynnwys proffil un dudalen, crynodeb o anghenion, canlyniadau a chymorth y cytunwyd arnynt.  Bydd hyn yn sicrhau cysondeb a chydraddoldeb eang o ran y ffordd y caiff dysgwyr eu trin a bydd yn sail i gydlyniad y system ADY yn ei chyfanrwydd a chludadwyedd cynlluniau unigol.