Iaith Arwyddion Prydain

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/05/2024

Hoffech chi ddysgu'r hanfodion am wyddor Iaith Arwyddion Prydain? Gallwch ddysgu sut i ofyn cwestiynau a sut i ddeall yr atebion a roddir!

Dyma Gyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain, cwrs i ddechreuwyr Lefel 1. Ni fydd angen i chi feddu ar unrhyw wybodaeth am Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig am ddwy awr yr wythnos am 10 wythnos, a'i achredu gan Agored Cymru. Cwrs yn yr ystafell ddosbarth dan arweiniad tiwtor fydd hwn.

O'r dechrau, byddwch yn pennu eich nodau gyda'ch tiwtor ac yn llunio eich cynllun dysgu eich hun. Byddwch yn cadw eich gwaith mewn portffolio ac yn cadw golwg ar eich dysgu eich hun. Bydd eich tiwtor yn asesu hyn ac yn rhoi adborth cyson i'ch helpu chi i wella. Byddwch yn dysgu rhywbeth newydd ym mhob gwers gan ychwanegu at yr hyn yr ydych eisoes wedi'i ddysgu, ond bydd gofyn i chi gwblhau gwaith yn ystod yr wythnos.

Lleoliad Diwrnod / Amser Wythnosau  Dyddiad Dechrau Y Ffi Cyflwyno'r cwrs
Canolfan Ddysgu Llanelli - Y Sied Nwyddau i'w gad 10 i'w gad £85  Ystafell ddosbarth
Canolfan Ddysu Caerfyrddin Dydd mawrth, 5-7yp 10 22/05/2024 £85

Ystafell ddosbarth

Canolfan Ddysu Caerfyrddin Dydd mawrth, 7-9yp 10 22/05/2024 £85

Ystafell ddosbarth

Canolfan Gymunedol Cwmaman i'w gad 10 i'w gad £85

Ystafell ddosbarth

Sut i gofrestru?

Ffoniwch 01267 235413, e-bostiwch neu llenwch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb i gofrestru eich diddordeb, cofrestru neu wneud ymholiadau pellach. Ar ddyddiad dechrau eich cwrs, byddwch yn cwblhau ffurflen gofrestru ac yn talu. Gellir talu ag arian parod neu siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Gaerfyrddin' neu ar-lein (darperir dolen iâr ôl cofrestru). Dewch hefyd â chopi o'ch cerdyn adnabod â llun (pasbort neu drwydded yrru).

Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl.