Derbyn i Ysgolion 2024-2025- Gwybodaeth i Rieni
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-25
- Pryd i wneud cais
- Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?
- Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol - Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion
- ADRAN D - Crynodeb o Ddisgyblion ac Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Cynradd Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Uwchradd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-25
Y manylir ar y rhan hon o'r ddogfen yw gweithdrefnau Sir Gaerfyrddin sy'n amlinellu'r pwynt mynediad arferol i drefniadau Meithrin, Cynradd, Uwchradd a chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd.
Pwyntiau allweddol ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir.-
- Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i rieni/Gwarcheidwaid wneud cais i'r Awdurdod am le.
- Nodir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn ar ddiwedd y ddogfen hon.
- Rhaid gwneud cais erbyn y dyddiadau cau
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol gynradd o'r ysgol feithrin.
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd.
- Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau yn annhebygol o gael lle yn eu hysgol dewis cyntaf
- Defnyddir Meini Prawf Gor-alw penodol wrth ddyrannu lle mewn ysgol.
- Wrth ddyrannu lleoedd, ni roddir ystyriaeth i'r ysgol feithrin a'r ysgol gynradd y mae'r disgybl yn ei mynychu. Y cyfeiriad cartref fydd yn cael ei ystyried wrth dderbyn i ysgolion.
- Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn nac ysgol roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
- Anfonir e-bost neu lythyr gan yr Awdurdod yn rhoi gwybod a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus neu wedi'i wrthod.
- Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi cadarnhau gyda’r Awdurdod ei fod yn derbyn y lle sy'n cael ei gynnig.