Derbyn i Ysgolion 2024-2025- Gwybodaeth i Rieni

Cyflwyniad

Diolch i chi am wneud cais am le yn un o ysgolion Sir Gaerfyrddin. Rydym yn ffodus bod gennym ysgolion gwych a staff o'r safon uchaf.
Ein gweledigaeth fel Adran Addysg yw cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin gan sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, a'u bod yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Fel gwasanaeth ymdrechwn i fod y gorau y gallwn fod a chael ein parchu'n lleol, tra'n ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
Gweithiwn yn ddiwyd i ddarparu addysg o'r safon uchaf bosibl er mwyn datblygu...
• Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau.
• Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
• Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
• Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.

Ym mis Gorffennaf, 2023 cafodd ein Gwasanaethau Addysg eu harolygu gan Estyn. Mae’r adroddiad cynhwysfawr, sydd ar wefan Estyn sydd yn nodi ystod o gryfderau ac yn cadarnhau ein bod yn darparu gwasanaethau o safon uchel i gwrdd ag anghenion dysgwyr Sir Gâr. Cydnabyddir pwysigrwydd ac addasrwydd ein Strategaeth 10 mlynedd Addysg Sir Gâr 2022-2032 i sefydlu gwasanaethau addysg cynaliadwy sydd hefyd yn rhoi ystyriaeth gadarn iawn i'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ein nod yw bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i ddod yn ddwyieithog neu'n amlieithog. Gweledigaeth y Cabinet yw ehangu addysg ddwyieithog ymhellach yn Sir Gaerfyrddin gan alluogi ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion dwyieithog a bod mewn sefyllfa well ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Am fwy o wybodaeth am fanteision dwyieithrwydd edrychwch ar y wybodaeth gynhwysfawr sydd ar wefan y Cyngor Sir.
Rwy'n gobeithio y bydd y canllaw hwn o help i rieni/gofalwyr plant sy'n dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf, ac i rieni/gofalwyr plant sy'n symud i'r ardal. Rydym yn sylweddoli bod dewis ysgol yn gallu bod yn her ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd y penderfyniad hwn i chi fel rhieni neu ofalwyr. Lluniwyd y canllaw hwn er mwyn eich cefnogi chi yn y broses honno ac mae'n cynnwys:
• gwybodaeth gyffredinol ynghylch ein hysgolion
• cyngor ynghylch sut a phryd y mae angen ichi wneud cais am le mewn ysgol
• y broses o roi lleoedd ac
• ystod o bolisïau megis cludiant ysgol a allai fod yn berthnasol i'ch amgylchiadau.

Cyn ichi benderfynu'n derfynol ar eich dewis o ysgol rydym yn eich annog i gysylltu â'r ysgolion yn eich ardal a threfnu ymweliad er mwyn trafod y ddarpariaeth sydd ar gael a'ch amgylchiadau unigol gyda nhw. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar wefannau'r ysgolion unigol ac yn eu prosbectysau hefyd.
Sylwch nad oes sicrwydd y derbynnir plentyn i'r ysgol o'ch dewis. Mae terfynau caeth ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i bob ysgol. Os derbynnir mwy o geisiadau nag sydd o lefydd, yn gyfreithiol, mae'n rhaid prosesu'r ceisiadau a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau yn gyntaf, gan ddefnyddio'r meini prawf goralw, y nodir eu manylion yn y llyfryn hwn, i bennu'r flaenoriaeth o ran rhoi'r llefydd sydd ar gael. I osgoi siom ac i gael y siawns fwyaf o gael lle yn eich dewis ysgol, gofalwch eich bod yn cyflwyno'ch cais erbyn y dyddiad cau a bennwyd.
Edrychwn ymlaen at groesawu eich plentyn i un o'n hysgolion a dymunwn bob llwyddiant iddo.

Gareth Morgans -Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant