Derbyn i Ysgolion 2024-2025- Gwybodaeth i Rieni
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-25
- Pryd i wneud cais
- Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?
- Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol - Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion
- ADRAN D - Crynodeb o Ddisgyblion ac Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Cynradd Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Uwchradd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
1. Tymhorau Ysgol a Dyddiadau Gwyliau ar gyfer 2024/25
Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi’r llywodraeth. Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgîl gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o’r fath.
2. Cwricwlwm yr Ysgol
Yn ystod addysg gynradd a thair blynedd gyntaf addysg uwchradd mae pob ysgol
yn cynnig rhaglen eang a chytbwys sy’n cynnwys holl bynciau’r Cwricwlwm
Cenedlaethol. Amcan y cwricwlwm a gynigir ymhob ysgol yw galluogi’r holl
ddisgyblion i gyrraedd eu llawn botensial. Yn y bedwaredd a'r bumed flwyddyn
yn yr ysgol uwchradd mae’r disgyblion yn parhau i astudio pynciau’r Cwricwlwm
Cenedlaethol ond gyda chyfle ar gyfer opsiynau sy'n cydweddu â doniau a
diddordebau arbennig y disgyblion
Ymgynghorir yn llawn â rhieni ynglŷn â’r opsiynau hyn ac mae cynghorwr gyrfaoedd yn gysylltiedig â phob ysgol i gynnig arweiniad. Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys pynciau craidd: Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Y pynciau sylfaen eraill yw technoleg, hanes, daearyddiaeth, iaith dramor fodern (mewn ysgolion uwchradd yn unig), cerddoriaeth, celf, addysg gorfforol a Chymraeg, lle nad yw’n bwnc craidd.
Mae’n rhaid i bob ysgol gynnig addysg grefyddol. Mae gan rieni yr hawl i eithrio
eu plant o’r ddarpariaeth addysg grefyddol a chydaddoliad mewn ysgol. Dylid
gwneud ceisiadau o’r fath i bennaeth yr ysgol.
Egwyddorion Cyffredinol
Mae Sir Gaerfyrddin yn credu yng ngwerth addysgol bod yn hyddysg mewn dwy iaith neu fwy ac mae'n gryf o blaid cael polisi dwyieithog yn ei hysgolion. Nod tymor hir y polisi hwn yw dysgu plant i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Dylai'r ddarpariaeth sicrhau bod plant yn gallu cyfathrebu'n hyderus yn y ddwy iaith a'u bod yn ymwybodol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae polisi iaith yr ysgolion uwchradd yn barhad o'r polisi cynradd ac mae'n adleisio statws y Gymraeg yn y cymunedau lle mae'r ysgolion. Mae'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn nodi bod amrywiaeth o ddulliau o ddysgu'r Gymraeg a dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion y sir ar hyn o bryd. Wedi dweud hynny, disgwylir i bob ysgol ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ddwyieithog ac amlieithog fel bod disgyblion yn cael eu hintegreiddio'n llawn yn eu cymunedau dwyieithog ar ddiwedd y broses addysgol statudol.
Cwynion Ynghylch y Cwricwlwm Ysgol a Materion Cysylltiedig
Mae gan bob ysgol unigol bolisi ar gyfer ymdrin â chwynion. Yn ddelfrydol, bydd unrhyw bryderon a allai fod gan rieni yn cael eu datrys yn anffurfiol drwy drafodaeth uniongyrchol â’r ysgol. Fodd bynnag, pe bai rhieni yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, mae gan yr ysgol weithdrefnau sefydledig y mae’n rhaid iddynt sicrhau eu bod ar gael.
Mewn perthynas ag ysgolion gwirfoddol a reolir a'r rhai a gynorthwyir, gwahoddir cynrychiolydd o’r Corff Esgobaethol perthnasol i fod yn bresennol, yn unol â'r gweithdrefnau sefydledig, pryd y caiff cwyn ei hystyried.
Os yw’r gŵyn yn ymwneud â materion crefyddol, yna dilynir y drefn uchod, ond byddai’r Pwyllgor Cwynion hefyd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd yr Awdurdod Ymgynghorol Sefydlog ynghylch Addysg Grefyddol ac ar gyfer Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir, gwahoddir Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol fel sylwedydd.
Grwpiau Blwyddyn/Oedrannau Disgyblion.
Mae dilyniant disgybl drwy flynyddoedd addysg orfodol yn cael ei rannu i bedwar cyfnod allweddol. Mae'r tabl yn dangos y cyfnodau allweddol ar gyfer yr oedrannau plant a'r rhifau blynyddoedd cyfatebol.
Cyfnod Allweddol | Disgrifiad o'r Grwpiau Blwyddyn | Oed y mwyafrif ar ddiwedd y flwyddyn |
---|---|---|
Blynyddoedd Cynnar | M1 | 3 oed Meithrin (Rhan-amser) | 4 |
M2 | 4 oed Meithrin (Amser llawn) | 4 | |
CA1 | Derbyn | Babanod | 5 |
Bl1 | Babanod | 6 | |
Bl2 | Babanod | 7 | |
CA2 | Bl3 | Iau | 8 |
Bl4 | Iau | 9 | |
Bl5 | Iau | 10 | |
Bl6 | Iau | 11 | |
CA3 | Bl7 | Ysgol Uwchradd Bl 1af | 12 |
Bl8 | Ysgol Uwchradd 2il Flwyddyn | 13 | |
Bl9 | Ysgol Uwchradd 3edd Flwyddyn | 14 | |
CA4 | Bl10 | Ysgol Uwchradd 4edd Flwyddyn | 15 |
Bl11 | Ysgol Uwchradd 5ed Flwyddyn | 16 | |
CA5 (Chweched Dosbarth) |
Bl12 | Blwyddyn Gyntaf/Chweched Isaf | 17 |
Bl13 | Ail Flwyddyn/Chweched Uchaf | 18 |