Polisi Derbyn i Ysgolion 2027-28
Yn yr adran hon
Cyflwyniad
Mae'r ddogfen hon yn nodi Trefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyferblwyddyn academaidd 2027/28.
Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgol 1998 yn neilltuo swyddogaethau i Awdurdodau Derbyn, Paneli Apêl a’r Fforwm Derbyn mewn perthynas â derbyn disgyblion i'r Ysgol.
Mae dyletswydd statudol ar bob un o'r cyrff hyn i weithredu yn unol â'r Côd Derbyn i Ysgolion a'r Côd Apelau Derbyn i Ysgolion.
Mae'r newidiadau canlynol yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus i Ddalgylchoedd Sir Gaerfyrddin yn rha o'r polisi hwn ar gyfer blwyddyn academaidd 2027-28.
Bydd y ‘Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2027/28’ ar gael i rieni ym mis Hydref 2025, cyn y dyddiad ymgeisio yn cynnwys gwybodaeth bwysig am holl ysgolion y Sir, gan gynnwys y trefniadau derbyn cyhoeddedig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir unigol (h.y. ysgolion Ffydd).
