Polisi Derbyn i Ysgolion 2027-28

Dalgylchoedd

Mae canlyniad yr ymgynghoriad ynghylch Adolygiad Sir Gaerfyrddin o Ddalgylchoedd yn cael ei adlewyrchu mewn mapiau diwygiedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28.

Trefniadau Pontio:

  1. Gall disgyblion sydd ar gofrestr ysgol cyn y dyddiad gweithredu ar 1 Medi 2027 aros yn yr ysgol honno. Ni fydd yn ofynnol i ddisgyblion newid ysgol o ganlyniad i unrhyw newid i'w dalgylch.
  2. Mae'r polisi derbyn yn rhoi blaenoriaeth i frodyr a chwiorydd pan fydd gormod mewn grŵp blwyddyn. Os oes gan grŵp blwyddyn lai o ymgeiswyr na lleoedd, nid yw'r dalgylch yn cael ei ystyried. Gweler Adran 13 ar gyfer y meini prawf gor-alw.
  3. Mae gan ddisgyblion nad ydynt yn cael lle yn eu dewis ysgol yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gerbron panel annibynnol yn ymdrin ag apeliadau derbyn. Bydd pob apêl yn cael ei hadolygu fesul achos, ac mae gan y panel annibynnol yr awdurdod i ddyfarnu lleoedd lle bo hynny'n briodol.
  4. Nid yw unrhyw drefniadau pontio yn berthnasol i deuluoedd sy'n symud i'r hen ddalgylch ar ôl y dyddiad gweithredu, hyd yn oed os yw'r disgybl neu unrhyw frawd neu chwaer eisoes yn mynychu'r ysgol.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod fod yna berthynas bwysig rhwng ysgol a’i chymuned. Oherwydd hynny, mae’r Awdurdod wedi dynodi ardal ddaearyddol benodedig y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu sy’n cael ei alw’n ddalgylch yr ysgol.

Mae manylion dalgylch ysgol ar gael yn yr ysgol, ar wefan y Cyngor Sir neu oddi wrth yr Awdurdod Derbyn perthnasol.

Mae'n bosibl y gall dalgylch newid; fodd bynnag, lle cynigir newidiadau, byddai'r rhain yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddynt gael eu gweithredu.

Nid yw byw yn nalgylch ysgol yn gwarantu lle yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae’n ffactor pwysig gan y bydd yn rhoi blaenoriaeth uwch i’r cais na cheisiadau gan ddisgyblion sy’n byw y tu allan i’r dalgylch.

Mae byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol hefyd yn bwysig gan fod hyn yn un o'r meini prawf allweddol wrth asesu a yw rhywun yn gymwys i dderbyn cymorth gyda chludo plentyn o'r cartref i'r ysgol.

Cyn gwneud cais am le mewn ysgol mae’r Awdurdod yn eich cynghori’n gryf i gysylltu a thrafod materion gyda’ch ysgol leol ac os yn bosib mynd i’w gweld fel eich bod yn gwybod am y cyfleusterau a’r cyfleoedd allant eu cynnig.