Polisi Derbyn i Ysgolion 2027-28

Derbyn y Tu Allan I'r Grŵp Blwyddyn Cronolegol Arferol

Bydd ceisiadau am lefydd i ddisgyblion mewn grwpiau blwyddyn sy'n wahanol i’r grŵp blwyddyn arferol yn seiliedig ar ddyddiad geni disgybl yn cael eu hystyried fesul un, a lle y mae hynny’n berthnasol, yn ôl y meini prawf ar gyfer goralw a esbonnir yn y ddogfen hon.

Mae proses benodol ar gyfer ystyried y ceisiadau hyn a fydd yn cynnwys asesiad gan yr Awdurdod o amgylchiadau unigol pob achos. Nid yw hon yn broses awtomatig. Rhaid i rieni anfon e-bost at mderbyniadau@sirgar.gov.uk i drafod cais ar gyfer disgybl y tu allan i'r grŵp oedran arferol. Gall rhieni mwneud cais am y polisi a'r canllawiau gan y Seicolegydd Addysg a Phlant drwy e-bostio'r cyfeiriad canlynol EPS@sirgar.gov.uk.

Os penderfynir bod sail dros ystyried cais ‘y tu allan i'r flwyddyn’, mae gan rieni y gwrthodwyd lle i'w plant mewn ysgol hawl statudol i apelio. Fodd bynnag, nid oes hawl apelio os cynigiwyd lle ond nad yw yn y grŵp blwyddyn dymunol.