Polisi Derbyn i Ysgolion 2027-28
Yn yr adran hon
Trefniadau Derbyn Arferol
Yn y rhan hon o'r ddogfen nodir gweithdrefnau Sir Gaerfyrddin o ran trefniadau derbyn arferol addysg Feithrin, Gynradd, Uwchradd a chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd.
- Mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i Rieni/Gwarcheidwaid gyflwyno cais i'r Awdurdod am le mewn ysgol.
- Nodir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn ar ddiwedd y ddogfen hon.
- Rhaid gwneud cais erbyn y dyddiadau cau
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Ysgol Gynradd o'r Ysgol Feithrin.
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Ysgol Uwchradd o'r Ysgol Gynradd.
- Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau yn annhebygol o gael lle yn eu hysgol dewis cyntaf.
- Defnyddir Meini Prawf Gor-alw penodol wrth ddyrannu lle mewn ysgol.
- Wrth ddyrannu lleoedd, nid yw'r ysgol feithrin neu'r ysgol gynradd y mae'r disgybl yn ei mynychu yn ffactor. Cyfeiriad cartref yw'r prif ffactor yn y broses ymgeisio ar gyfer ysgolion.
- Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn nac ysgol roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
- Anfonir e-bost gan yr Awdurdod yn rhoi gwybod a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus neu wedi'i wrthod.
- Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi derbyny lle gan yr Awdurdod.
Mae addysg y Blynyddoedd Cynnar yn ddarpariaeth anstatudol sydd ar gael i blant 3 oed a bydd yn rhaid gwneud cais am le mewn ysgol i'r Awdurdod Derbyn. Dylid cyflwyno ceisiadau derbyn i'r Awdurdod erbyn y dyddiad a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.
Mae sawl math o ddarpariaeth:
- Ysgol Feithrin – Ysgol Feithrin Rhydaman yw’r unig ysgol feithrin yn y Sir.
- Dosbarthiadau Meithrin/Blynyddoedd Cynnar mewn Ysgolion Cynradd (ysgolion 3-11 oed).
- Darpariaeth gan y sector nas cynhelir sy’n bartneriaid yn y Grŵp Hawliau Bore Oes, fel Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin a darparwyr preifat. Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin eich cynorthwyo yn y broses hon. Cysylltwch drwy e-bostio Gwybplant@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01267 246555.
Mae hawl gan bob plentyn 3 blwydd oed gael lleoliad am ddim am 10 awr yr wythnos mewn sefydliad cofrestredig trwy’r Grŵp Hawliau Bore Oes o'r tymor yn dilyn ei drydydd pen-blwydd.
Fel rheol, derbynnir plant i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yn rhan-amser ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd fel a ganlyn:
| 3ydd Pen-blwydd y Plentyn | Y Tymor Derbyn |
| 1 Medi - 31 Rhagfyr | Tymor y Gwanwyn |
| 1 Ionawr - 31 Mawrth | Tymor yr Haf |
| 1 Ebrill - 31 Awst | Tymor yr Hydref |
Y Dyddiad Cau i wneud cais am le rhan-amser mewn Ysgol Feithrin yw 31 Gorffennaf 2027.
Nid oes gan rieni hawl i apêl os na chynigir lle i’w plentyn yn eu dewis leoliad blynyddoedd cynnar. Ni fydd gan ddisgyblion sy’n cael eu derbyn i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar neu feithrin mewn Ysgol hawl ‘awtomatig’ i barhau â'u haddysg drwy gael lle amser llawn yn yr ysgol honno.
Ni fydd y ddarpariaeth ran-amser y mae disgybl yn ei mynychu yn cael ei hystyried pan fydd y lle amser llawn mewn ysgol gynradd yn cael ei ddyrannu.
Rhaid gwneud cais ar wahân i’r Awdurdod i gael lle amser llawn (4 oed yn yr ysgol).
Dylid cyflwyno ceisiadau derbyn i'r Awdurdod erbyn y dyddiad a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.
Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.
Lle mae’n ymarferol mae’r Awdurdod Derbyn yn caniatáu i ddarparwyr nas cynhelir ddefnyddio adeiladau ysgol. Ni fydd mynychu darpariaeth o'r fath yn cael ei ystyried wrth ddyrannu Lleoedd Rhanamser mewn Ysgol Feithrin neu Leoedd Amser Llawn mewn Ysgol Gynradd.
