Polisi Derbyn i Ysgolion 2027-28
Yn yr adran hon
Awdurdodau Derbyn
Rheolir y drefn o dderbyn plant i ysgolion gan Awdurdod Derbyn.
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Gaerfyrddin.
Rhaid i geisiadau ar gyfer pob ysgol, gan gynnwys Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir gael eu gwneud drwy system ymgeisio ar-lein y Cyngor.
Mae’r meini prawf yn cael eu pennu a’u gosod gan bob Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir unigol. Gall Cyngor Sir Caerfyrddin gynorthwyo yn y broses ymgeisio a chyhoeddi unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir unigol i rieni. Mae’r broses Apeliadau yn cael ei rheoli gan yr Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir unigol.
Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, corff llywodraethu yr ysgol sy'n pennu'r trefniadau derbyn, cyhoeddir y manylion yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni a gellir cael manylion amdanynt gan gorff llywodraethu priodol yr ysgol neu Gyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaeth ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru a Chyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaeth ar gyfer ysgolion Catholig yng Nghymru.
Awdurdodau Addysg Lleol cyfagos
O gofio natur ddaearyddol Sir Gaerfyrddin mae’n rhannu ffiniau gydag Awdurdodau Lleol eraill. Os yw'r ysgol yr ydych am i’ch plentyn fynd iddi mewn ardal Awdurdod arall, dylech gysylltu â’r Awdurdod hwnnw.
