Ein polisïau
- Rydym yn bwriadu cynnal ein holl ddosbarthiadau - ond efallai y bydd rhaid inni ganslo dosbarth yn achlysurol os yw'r niferoedd yn rhy isel.
- Os yw unrhyw ffioedd wedi'u talu, gallwn ond ad-dalu mewn amgylchiadau eithriadol ar gais ysgrifenedig.
- Bydd eich tiwtor yn esbonio'r pwyntiau Iechyd a Diogelwch sy'n ymwneud â'ch dosbarth ich i.
- Bydd angen tystiolaeth adnabod swyddogol arnoch i brofi eich cymhwysedd ar gyfer cyrsiau SSIE a sgiliau hanfodol.
Awgrym defnyddiol: Byddwn yn cadw data er mwyn prosesu a gweinyddu'r broses o'ch cofrestru a'ch achredu. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ag asiantaethau eraill fel: ein cyllidwyr, cyrff archwilio, Llywodraeth Cymru, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Cewch wybod sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth.
Canmoliaeth a chwynion
Mae gan bob dysgwr yr hawl i fynychu cyrsiau heb ofni gwahaniaethu, aflonyddu neu gamdriniaeth. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef o wahaniaethu, aflonyddu neu gamdriniaeth, rhowch wybod am hyn ar unwaith i'ch tiwtor neu'r tîm rheoli. Rhowch wybod inni hefyd os ydych yn gweld hyn yn digwydd i rywun arall. Os bydd angen, byddwn yn cymryd camau disgyblu yn erbyn unrhyw ddysgwr nad yw'n ymddwyn mewn ffordd dderbyniol.
O ran cymwysterau: mae gennych hawl i apelio os ydych yn teimlo bod eich tiwtor, asesydd, neu gwiriwr wedi gwneud penderfyniad anghywir am eich gwaith, neu heb ystyried unrhyw anghenion asesu arbennig yn ddigonol.
Rydym am i chi fwynhau eich cwrs - felly os oes gennych unrhyw broblemau neu gwynion, dywedwch wrthym ar unwaith - a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys pethau'n gyflym. Byddwn hefyd yn falch o glywed am eich llwyddiannau a'ch canmoliaeth!
Awgrym defnyddiol: Mae eich adborth yn bwysig i ni. P'un a yw'n gŵyn, yn ganmoliaeth neu'n awgrym. Bydd dweud wrthym ni'n ein helpu i wella ein gwasanaethau a rhannu arfer gorau.
Canmoliaeth a chwynion.
Nôl i'r adran Dysgu oedolion