Dysgu Oedolion
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio ar gyfer darparu cyrsiau llythrennedd, rhifedd, Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill a chyrsiau Cymraeg ar gyfer oedolion ichi. Rydym hefyd yn defnyddio data personol er mwyn darparu cyrsiau dysgu cymunedol eraill.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n dyletswydd o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 i ddarparu cyfleusterau addysg addas i bobl dros 19 oed.
Y sail ar gyfer prosesu data personol (sensitif) categori arbennig amdanoch yw am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod.
Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, ni fyddwn yn gallu cael y cyllid sydd ei angen arnom wrth Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyrsiau rydych yn dymuno eu hastudio ichi.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Rhyw
- Rhif Unigryw'r Dysgwr a'ch Rhif Yswiriant Gwladol
- Manylion Banc/Talu
- A ydych yn cael budd-daliadau?
- Manylion Cyflogaeth ac Addysg
- Delweddau/Ffotograffau
- A oes gennych unrhyw anghenion dysgu ychwanegol?
- Eich Hil neu Gefndir Ethnig at ddibenion monitro cyfleoedd cyfartal
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein ebyst o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu data personol dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny ac ym mhob achos, rydym yn darparu cyn lleied o ddata ag sydd ei angen.
Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Estyn.
At ddibenion cyllido, mae'n rhaid i ni hefyd ddarparu data personol amdanoch i'r sefydliadau canlynol:
- Coleg Sir Gâr
- Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Llywodraeth Cymru
Os ydych yn astudio ar gyfer cymhwyster neu gredydau, bydd angen i'ch data personol gael ei ddarparu i'r corff dyfarnu perthnasol ar gyfer achrediad.
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am 6 blynedd ar ôl ichi gwblhau'ch cwrs.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
- Cyfansoddiad y Cyngor
- Cadeirydd 2020 - 21
- Swyddfa'r Crwner
- Arglwydd Raglaw
- Blog Arweinydd
- Blog Cadeirydd y Cyngor
Cynghorwyr, ACau, ASau a ASEau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Aelodau Senedd Ewrop
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Bwrdd Gweithredol
- Penderfyniadau swyddogion
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
- Cyfarfodydd byw a rhithwir y Cyngor a rhai sydd i ddod
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2019-20
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2020
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru'r Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Etholiad Senedd Ewrop 2019
- Etholiadau Lleol 2017
- Etholiad Seneddol 2017
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Ymchwil ac Ystadegau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth