Oherwydd y tywydd garw, cafodd casgliadau dydd Llun eu gohirio. Dyma'r amserlen newydd:
Bagiau du a gwydr: Casgliadau un diwrnod yn hwyrach yr wythnos hon. Bydd casgliadau dydd Llun yn dechrau ddydd Mawrth, gan ddilyn y drefn honno drwy'r wythnos, gyda chasgliadau dydd Gwener nawr ddydd Sadwrn.
Bagiau glas a gwastraff bwyd: Ein bwriad yw ailddechrau casgliadau fel arferol dydd Mawrth 5 Ionawr, os bydd y tywydd yn caniatáu. Os na chasglwyd eich gwastraff dydd Llun 5 Ionawr, rhowch eich bagiau glas allan ddydd Llun nesaf (12 Ionawr). Bydd criwiau hefyd yn dychwelyd yr wythnos hon i gasglu unrhyw ddeunydd ailgylchu o ddydd Gwener a dydd Sadwrn diwethaf.
Gwastraff hylendid/cewynnau: Bydd casgliadau'n parhau ar y diwrnodau arferol lle bo'r amodau'n caniatáu. Bydd criwiau'n dal i fyny â'r casgliadau a gollwyd ddydd Llun yn ystod yr wythnos.
Gwastraff swmpus: Byddwn yn cysylltu â'r rheiny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol i aildrefnu.
*Bydd casgliadau'n digwydd lle bo'r amodau'n ddiogel, a gall y trefniadau newid os bydd y tywydd garw'n parhau.
I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i'r dudalen tarfu ar gasgliadau.
Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.