Mannau Cynnes

Everybody Counts

Canolfan a Chlwb Canŵio Padlwyr Llandysul SA44 4AA

Mae'r prosiect "Everybody Counts" yn fenter gyffrous a thrawsnewidiol sy'n adeiladu ar yr ymdeimlad cryf o gymuned a chynhwysiant rydyn ni wedi'i feithrin ers tro yn Padlwyr Llandysul.

Wedi'i lleoli yng nghanol Llandysul a Phont-tyweli.

 

O dan ofal ac arweiniad ein staff hyfforddedig a chyfeillgar, bydd pobl yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n hyrwyddo llesiant, datblygiad personol a chynhwysiant cymdeithasol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

Diwrnodau Cymdeithasol ar Thema: O gystadlaethau gemau bwrdd i weithdai coginio, bydd rhywbeth hwyliog a diddorol ar gael bob amser.

Sesiynau Coginio Cymunedol: Gall y rhai sy'n cymryd rhan ddysgu sgiliau newydd yn y gegin wrth fwynhau bwyd da a chwmni gwell fyth.

Cyfarfodydd y Clwb Llyfrau: I'r rhai sy'n dwlu ar lenyddiaeth neu sydd am ehangu eu gorwelion, bydd ein clwb llyfrau cynhwysol yn creu lle ar gyfer trafodaethau bywiog a dysgu ar y cyd.

Llesiant a Chysylltiad Cymunedol: Cyfarfodydd rheolaidd i gael te, coffi a sgwrs i sicrhau nad oes neb byth yn teimlo'n ynysig.

  • Lleoliad: Canolfan a Chlwb Canŵio Padlwyr Llandysul SA44 4AA