Mannau Cynnes

The Wheelhouse Cafe@ Antioch

Mae'r man cynnes yng Nghaffi Wheelhouse, sy'n rhan o Ganolfan Antioch, ar agor dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau rhwng 9am a 2pm. Mae'r caffi yn darparu awyrgylch cynnes a chroesawgar ac mae'n cynnig te a choffi am ddim i'r rhai sy'n chwilio am le cynnes, diogel.

Mae gennym bosau, gemau bwrdd a llyfrau, a digon o le os ydych chi am ddefnyddio'ch cyfrifiadur neu liniadur i weithio. Mae bwyd cartref o ansawdd da ar gael am bris gostyngol (gall prif brydau fod yn llai na £5), ond does dim pwysau arnoch o gwbl i brynu!

Mae nifer o grwpiau cymunedol yn cwrdd yma a byddai croeso i chi ymuno â nhw - er enghraifft mae'r grŵp ffrindiau a chymdogion (FAN) yn cwrdd bob dydd Mercher am 9:30am (does dim cost i ymuno a dim rhwymedigaeth). Galwch heibio i weld beth allwn ni ei gynnig i chi!

Gwefan: antiochcentre.co.uk

E-bost: info@antiochchurch.co.uk

  • Amser: Pob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, 9am - 2pm
  • Lleoliad: Canolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli, SA15 2NE