Mannau Cynnes
Cyfle Cymru Sir Gaerfyrddin@Rhydaman
Man cynnes - Cyfle Cymru
Man diogel, croesawgar ar gyfer cefnogaeth a chysylltiad
Ymunwch â ni mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol lle gallwch wneud y canlynol:
Cadw'n gynnes ac yn gyfforddus mewn lleoliad clyd.
Mwynhau lluniaeth am ddim – te, coffi a byrbrydau.
Cysylltu ag eraill a rhannu profiadau mewn lleoliad anfeirniadol.
Cyrchu adnoddau fel llyfrynnau hunangymorth a chanllawiau llesiant.
Cael cefnogaeth gan ein tîm a'n mentoriaid cyfoedion ar faterion fel iechyd meddwl, llesiant ac adferiad.
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sy'n chwilio am le diogel i siarad, ymlacio, a chael cefnogaeth.
Dim pwysau, dim barn – dim ond cynhesrwydd a dealltwriaeth.
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Keri, Ffôn symudol: 07970 435 887 neu 0300 777 2256
e-bost: ask@cyflecymru.com
- Amser: Bob dydd Mercher, 10.30-2.30pm
- Lleoliad: Swyddfa Barod, 21-23 Stryd Fawr, Rhydaman
