Cyfleoedd Gwirfoddoli ar gyfer Tyfu Cymunedol

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/08/2024

Ledled Sir Gaerfyrddin, mae nifer cynyddol o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan mewn cynlluniau tyfu cymunedol. Mae tystiolaeth i gefnogi’r syniad y gall tyfu eich cynnyrch eich hun fod o fudd i bobl ac i’r blaned, boed hynny drwy wella llesiant corfforol a meddyliol neu drwy leihau nifer y milltiroedd bwyd ar ein platiau.

Mae’r adnodd hwn wedi’i gyhoeddi i dynnu sylw at yr ystod o gyfleoedd gwirfoddoli i dyfu cynnyrch yn eich cymuned, yn hytrach na hyrwyddo sefydliadau penodol. Sylwer fod y gronfa ddata hon wedi'i llunio ym mis Mawrth 2024.

Argymhellir y dylai unrhyw un sy'n chwilio am gyfleoedd o'r fath gysylltu â'r sefydliad yn uniongyrchol.

Gellir defnyddio’r sefydliadau canlynol fel man cychwyn i gymryd rhan:

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
Cysylltu Sir Gâr
Grŵp Facebook Bwyd Bendigedig Sir Gaerfyrddin
lnfoEngine (Wales)
Cynghorau Tref a Chymuned Lleol
Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol
Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
Mentrau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin
Gwirfoddoli Cymru

Llwythwch mwy