Grant Ymchwil A Datblygu

5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys: -

  • Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles,
  • Gwella'r eiddo / mân waith adeiladu
  • Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno,
  • Gosodion a ffitiadau newydd, dodrefn, ac offer swyddfa cyffredinol ac ati.
  • Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn cynnig a derbyn y grant.
  • Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau
  • Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth.
  • Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu
  • Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys. caniatâd cynllunio.
  • Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW.
  • Ni ddylid gwario cyn cymeradwyo grant gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol. Ni allwn ystyried eitemau sydd wedi'u hymrwymo i'w prynu ee blaendal diogelwch heb ganiatâd ymlaen llaw gan y tîm grantiau. Rhoddir ystyriaeth i hyn fesul achos.
  • Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
  • Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
  • Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes/ysgrifennu AGB ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau