Grant Ymchwil A Datblygu

4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Gwariant Cyfalaf:

Bydd y grant yn berthnasol ar gyfer gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw mewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:

  • Costau cyfalaf neu refeniw arbenigol sy'n gysylltiedig â datblygu a phrofi cynhyrchion a / gwasanaethau newydd, gan gynnwys prototeipio, dylunio, gweithgynhyrchu, monitro, gwerthuso, ac ati.
  • Costau sy'n gysylltiedig ag ymchwil a datblygu marchnad / dadansoddi'r farchnad / mapio a chwmpasu / dadansoddi cystadleuwyr, ac ati.
  • Costau sy'n gysylltiedig ag astudiaethau dichonoldeb a/neu hyfywedd ac adroddiadau ar gyfer datblygu cynhyrchion, prosesau a/neu wasanaethau.
  • Costau sy'n gysylltiedig â patentu, gan gynnwys drafftio a ffeilio
  • Costau sy'n gysylltiedig â masnacheiddio'r cynnyrch, y broses a/neu'r gwasanaeth gan gynnwys marchnata a hyrwyddo
  • ** rhaid cynhyrchu pob deunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog.
  • Hyfforddiant arbenigol / technegol (ddim o reidrwydd wedi'i achredu)
  • Meddalwedd Arbenigol
  • Tystysgrif Sicrwydd Ansawdd (a asesir fesul achos)