Trawsnewid Trefi
Yn yr adran hon
1. Cyflwyniad
Mae'r broses ymgeisio bellach wedi cau. Ymdrinnir â'r ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin. Os bydd cyllid ychwanegol ar gael, gall y cronfeydd hyn ailagor – cadwch lygad ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu gofynnwch am gael hysbysiad drwy anfon e-bost at Transformingtowns@sirgar.gov.uk
Nod y grant Trawsnewid Trefi yw dod ag adeiladau gwag ac adfeiliedig mewn trefi cymwys yn ôl i ddefnydd masnachol trwy eu hadnewyddu a rhoi pwrpas iddynt unwaith eto. Bydd yn ategu seilwaith gwyrdd i wella bioamrywiaeth a gwella mannau cyhoeddus.
Bydd yr arian yn creu canol trefi bywiog, gyda mannau gwaith hyblyg a mwy o fynediad at wasanaethau i drigolion lleol ac i bobl sy'n ymweld â chanol ein prif drefi.
Bydd y grant hwn ar agor ar gyfer ceisiadau tan 20 Ebrill 2022. Gwnewch nodyn o’r dudalen hon a dilynwch ni ar Twitter a Facebook i gael y diweddaraf.