Trawsnewid Trefi

12. Sut mae gwneud cais

  • 1

    Cyn i ni ofyn i chi wneud cais llawn, bydd angen i chi gyflwyno mynegiant o ddiddordeb sy'n amlinellu eich cynnig prosiect a'ch costau.

     

  • 2

    Ar ôl i ni dderbyn eich mynegiant o ddiddordeb, byddwn yn gwirio a yw eich prosiect arfaethedig yn gymwys mewn egwyddor i gael ei gefnogi drwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi.

    Yna bydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno i'r fforwm neu'r tasglu canol tref perthnasol i'w gymeradwyo.

    Yn olaf, bydd y bwrdd rhanbarthol yn adolygu eich cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am eu penderfyniad terfynol.

    Gall y broses adolygu lawn gymryd hyd at 3 mis; fodd bynnag, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy e-bost.

  • 3

    Os bydd eich cais mynegiant o ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi gwblhau cais llawn. 

    Bydd yn ofynnol i chi gyflogi pensaer proffesiynol neu asiant tebyg i helpu i ddylunio a rheoli'r prosiect. Byddant yn helpu i gynhyrchu dyluniadau o ansawdd ac yn cysylltu â'r adrannau Cynllunio a Rheoli Adeiladu i gael y caniatâd statudol angenrheidiol. Mae'r rhain yn hanfodol i brosiect llwyddiannus, os oes angen caniatâd cynllunio, gellir cymeradwyo'r grant mewn egwyddor yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

    Gallwch wneud cais am gyllid tuag at gost ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r pensaer/tîm dylunio os caiff ei gaffael yn unol â'r rheolau caffael.

    Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol gyda'ch cais:

    1. Ffotograffau diweddar o'r eiddo;
    2. Hysbysu am ganiatâd cynllunio a chynlluniau/lluniadau cymeradwy;
    3. Lluniadau a rhestrau gwaith mewnol ac allanol;
    4. Caniatâd statudol perthnasol megis Rheoli Adeiladu;
    5. Caniatâd y landlord a'r codwr morgais os yn berthnasol;
    6. Cydymffurfio â'r broses gaffael ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â'r grant;
    7. Datganiad sy'n dangos y ffioedd proffesiynol neu ffioedd eraill sydd i'w hysgwyddo
    8. Cadarnhad y gellir talu cost lawn y gwaith cyn cyflwyno'r cais am grant. Gallai hyn fod ar ffurf llythyr gan y banc;
    9. Gwybodaeth ariannol
      • Cwmni cyfyngedig - 3 blynedd o gyfrifon archwiliedig;
      • Unig fasnachwr/partneriaeth - copi o ffurflenni treth hunanasesu'r 3 blynedd diwethaf; a
      • Busnes Newydd – tystiolaeth o gyllid digonol ar gyfer cyfanswm cost y prosiect e.e. datganiad banc/llythyr gan fanc a rhagolygon llif arian am 3 blynedd
    10. polisi a chynllun gweithredu amgylcheddol.

    Rydym yma i helpu, anfonwch e-bost at: Trawsnewidtrefi@sirgar.gov.uk os hoffech i ni fynd drwy eich cais gyda chi.

  • 4

    Grant dewisol yw hwn, bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel Datblygu Economaidd a rhoddir cymeradwyaeth derfynol iddo gan yr Aelod o'r Gabinet dros Adfywio a Pholisi. 

    Bydd eich cais am grant yn cael ei asesu ar sail ei fudd cadarnhaol i'r ardal leol gan gynnwys yr amgylchedd, ond gall lefel y grant gael ei chyfyngu gan faint a natur y prosiect neu'r cwmni a/neu ei drosiant. 

    Bydd eich cais yn cael ei drosglwyddo i syrfëwr meintiau annibynnol i wirio'r costau.

    Bydd hefyd yn cael ei asesu i benderfynu a fyddai'r grant y gofynnwyd amdano yn cael ei ystyried yn gymhorthdal ai peidio, yn seiliedig ar werth, y meini prawf cymhorthdal, a'r egwyddorion, fel y bo'n berthnasol.

  • 5

    Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad terfynol eich cais yn dilyn adolygiad y panel. Os bydd eich cais yn llwyddiannus a'ch bod yn derbyn cyllid, byddwn yn anfon telerau ac amodau'r grant at eich cyfreithiwr drwy e-bost. Rhaid i chi dderbyn y telerau hyn o fewn 28 niwrnod. 

  • 6

    Pan fydd eich prosiect wedi'i gymeradwyo, byddwn yn nodi pryd y bydd angen i chi ddechrau ar y safle, a phryd y bydd angen cwblhau'r prosiect llawn.

    Rhaid gwneud yr holl waith yn unol â Rhwymedigaethau Statudol megis Cynllunio, Rheoli Adeiladu a gofynion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Gellir dirymu cynnig grant os nad yw'r gwaith yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth statudol.

    Eich cyfrifoldeb chi fydd monitro cynnydd y gwaith. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn mynychu cyfarfodydd safle ac yn gofyn am ddiweddariadau a dylid rhoi gwybod i ni am unrhyw wyriad o'r cynllun y cytunwyd arno. Os na cheisir cyngor, efallai na fydd grant a gymeradwywyd yn cael ei dalu mewn perthynas â'r eitemau hyn. Dylid rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i fanylebau deunyddiau, manylion adeiladu neu ddyluniadau a, lle bo'n berthnasol, y swyddog cynllunio i sicrhau bod newidiadau yn unol â gofynion cynllunio. Dylid rhoi gwybod i ni hefyd am unrhyw newidiadau i gost neu amserlen y prosiect, neu unrhyw newid contractwr, cyn gynted ag y cânt eu gwireddu.

  • 7

    Bydd taliad grant yn cael ei wneud yn ôl-weithredol ar ôl cwblhau'r gwaith.

    I ofyn am i'r cyllid gael ei dalu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    • anfoneb / derbynneb taliad
    • prisio'r gwaith a gwblhawyd
    • datganiad banc yn dangos y taliadau sy'n cael eu gwneud i'r cyflenwr neu'r contractwr
    • lluniau cynnydd
    • manylion banc

    Dylai eich tîm proffesiynol gynhyrchu cyfrif terfynol, sy'n manylu ar yr holl waith a wnaed. Rhaid cyflwyno pob anfoneb gan y contractwr a'r ffioedd proffesiynol i ni. Dylid cyflwyno datganiadau banc ochr yn ochr â'r rhain sy'n dangos bod yr anfonebau wedi cael eu talu. Rhaid i bob anfoneb fod wedi'i thalu o gyfrif banc yr ymgeisydd fel y'i henwir.  

    Gallwch ofyn am daliadau interim wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, bydd angen nodi hyn yn eich cais llawn a'i drafod gyda ni wrth i'ch prosiect fynd yn ei flaen.

  • 8

    Byddwn yn monitro eich busnes yn ffurfiol ac yn gofyn am dystiolaeth ym mlwyddyn 1, 3 a 5.

    Os ydych yn creu swyddi fel rhan o'ch prosiect rhaid eu creu cyn pen 12 mis ar ôl y taliad grant terfynol. Yn eich cais, gofynnir i chi pryd y byddwch yn rhagweld y bydd y swyddi hyn yn cael eu creu. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi ar y dyddiadau hyn i weld a ydych yn gweithio yn unol â'r amserlen.