Trawsnewid Trefi
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Swm y cyllid
- 3. Cymhwysedd
- 4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 8. Rheolau caffael – Cael dyfynbrisiau
4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
Os caiff eich mynegiant o ddiddordeb ei gymeradwyo a gofynnir i chi gyflwyno cais llawn gallwch wneud cais am gyllid i dalu costau sy'n cynnwys:
Gwelliannau i eiddo masnachol
Gall gwaith allanol i'r adeilad gynnwys gwaith yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol ar gyfer uniondeb strwythurol yr eiddo. Gallai'r eitemau gynnwys:
- Blaen siopau;
- Arwyddion dwyieithog;
- Ffenestri a drysau;
- Goleuadau allanol;
- Toeau a simneiau;
- Cafnau a pheipiau dŵr glaw;
- Rendro, glanhau cerrig ac atgyweirio, ail-bwyntio; a
- Gwaith strwythurol.
Gall gwaith mewnol i'r adeilad gynnwys yr holl waith, yn waith gweladwy neu strwythurol, sy'n angenrheidiol er mwyn cwblhau'r prosiect i ofynion Rheoliadau Adeiladu. Gallai hyn gynnwys:
- Ffenestri a drysau;
- Gwneud gwelliannau o ran mynediad;
- Waliau, nenfydau, goleuadau;
- Mesurau effeithlonrwydd ynni pan gânt eu cynnwys fel rhan o'r cynllun cyffredinol;
- Cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi;
- Cyfleusterau llesiant (e.e. cyfleusterau ystafell ymolchi a glanhau hanfodol yn unig); a
- Gwaith strwythurol
Gwelliannau i flaen siopau
Gallwch wneud cais am gyllid ar gyfer gwelliannau allanol i flaen siopau lle nad oes angen gwaith addasu neu ailddatblygu mewnol.
Seilwaith Gwyrdd
- Waliau Gwyrdd
- Toeau Gwyrdd
- Gerddi Glaw
- Parciau 'Poced'
Ni fydd y cyllid hwn yn cyfrannu at gostau cynnal a chadw parhaus yn y blynyddoedd ariannol i ddod.
Creu ardaloedd masnachu awyr agored yng nghanol trefi
Darparu seddi awyr agored, blychau plannu blodau, gorchuddion, mannau gweini a chanopïau wrth adeiladau.
Trefi digidol - Seilwaith digidol
Darparu eitemau cyfalaf i gefnogi rhwydweithiau dadansoddi Wi-Fi a LoraWan.
Datblygu mannau cyhoeddus yng nghanol y dref
Gallwch wneud cais am arian i gwblhau gwelliannau i amgylchfyd cyhoeddus ar raddfa fach lle maent yn cyd-fynd â gweithgarwch adfywio yng nghanol trefi. Bydd angen i ni weld effaith gymdeithasol ac economaidd amlwg gan gynnwys:
- Symud neu ostwng cyrbau ar gyfer mynediad a gadael.
- Ehangu palmentydd i ddarparu mannau eistedd yn yr awyr agored ac ardaloedd amwynder.
- Blychau plannu blodau a sgriniau parhaol.
Marchnadoedd canol tref
- Darparu cyflenwadau trydan parhaol i alluogi marchnadoedd i fasnachu.
- Caffael stondinau a llwyfannau masnachu.
Bydd y grant hwn ar agor ar gyfer ceisiadau tan 20 Ebrill 2022. Gwnewch nodyn o’r dudalen hon a dilynwch ni ar Twitter a Facebook i gael y diweddaraf.