Trawsnewid Trefi
Yn yr adran hon
3. Cymhwysedd
Gallwch wneud cais am y grant hwn os ydych yn rhentu neu'n berchen ar eiddo yn y canol trefi canlynol:
- Llanelli
- Caerfyrddin
- Rhydaman
- Porth Tywyn
- Cydweli
- Cross Hands
- Cwmaman
- Hendy-gwyn ar Daf
- Talacharn
- Sanclêr
- Castellnewydd Emlyn
- Llanybydder
- Llandeilo
- Llanymddyfri.
Rhaid i chi naill ai:
- Fod yn berchen ar y rhydd-ddaliad, neu
- Fod yn dal prydles gydag o leiaf saith mlynedd yn weddill ar ôl dyddiad talu terfynol y grant. Bydd angen i chi gael cydsyniad ysgrifenedig eich landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Ni allwch wneud cais am gyllid i gefnogi gwaith yr ydych eisoes wedi'i ddechrau. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn gynnar i drafod unrhyw gynigion, ebostiwch TrawsnewidTrefi@sirgar.gov.uk. Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu a thrafod ystyriaethau dylunio allweddol.
Bydd y grant hwn ar agor ar gyfer ceisiadau tan 20 Ebrill 2022. Gwnewch nodyn o’r dudalen hon a dilynwch ni ar Twitter a Facebook i gael y diweddaraf.