Deg Tref
Diben y fenter Deg Tref yw cefnogi adferiad a thwf cymunedau gwledig ar draws Sir Gaerfyrddin. Roedd yn ymateb yn uniongyrchol i'r Cynllun Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen, a oedd yn nodi camau ymarferol i helpu i adfywio ein trefi a'r ardaloedd cyfagos.
Cafodd y fenter ei hariannu'n rhannol gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 'Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru', gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.
Gyda'i gilydd, nod y prosiectau hyn yw creu trefi bywiog, cydnerth sy'n cynnig mwy o gyfleoedd i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Mae map cyllido rhaglen y Deg Tref yn rhoi trosolwg gynhwysfawr o'r prosiectau a'i ffynonellau cyllid.
Mae'r map rhyngweithiol hwn yn dangos lle mae arian wedi'i fuddsoddi a beth mae'n helpu i'w gyflawni. Mae wedi'i gynllunio i fod yn glir ac yn hawdd ei archwilio, felly gallwch chi weld sut y mae eich tref yn elwa a beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.










