Cynllun Gwella Chwarae Cymunedol
Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Cymuned Llangyndeyrn
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Pont-iets
Nid oedd yr ardal chwarae wreiddiol a adeiladwyd yn y 1970au yn bodloni dyheadau plant a phobl ifanc heddiw ac yn anaml y’i defnyddiwyd.
Yn dilyn ymgynghoriad cymunedol cadarn, dewisodd y plant a phobl ifanc o ysgolion cynradd lleol yr offer sydd bellach wedi’i osod yn y parc, mae hyn yn cynnwys cylchfan gynhwysol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae'r parc wedi cael derbyniad da iawn ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio bob dydd.