Rhaglen Llesiant Cymunedol

Ymgeisydd y prosiect: Baton Twirling Association Cymru

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Drefach

Mae dosbarthiadau gweithgaredd fel Thai-chi ar eich eistedd, dosbarthiadau ffitrwydd 50+, a Boxfit ar gael. I blant a phobl ifanc, mae'r ganolfan yn cynnig Clwb Deulu, Clwb Hwyl, Gwersyll Dawns a Chlwb Chwaraeon.

Cynhelir Hwb cymunedol yn y ganolfan yn fisol gyda sefydliadau cefnogi fel Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin, Hwb Bach y Wlad Cyngor Sir Caerfyrddin, Cymunedau am Waith a Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Cymru yn bresennol. Mae presenoldeb da yn yr Hwb gan y gymuned ac mae wedi gwella mynediad at wasanaethau allweddol ar gyfer y gymuned wledig.

 

Prosiectau a Gymeradwywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig - Cymunedau Cynaliadwy