Prosiect Cyfranogi a Chwrs Glynhir

Ymgeisydd y prosiect: Clwb Golff Glynhir

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llandybïe

Mae'r syniad ar gyfer y prosiect wedi'i ddatblygu mewn ymateb i anghenion defnyddwyr y clwb. Nid yw'r aelodau hŷn na'r rhai sydd â chyflyrau iechyd yn gallu chwarae gan eu bod yn teimlo bod y cwrs 18 twll cyfan yn rhy flinderus.

Mae'r cwrs newydd hwn wedi gwella mynediad i gerddwyr, bygis a defnyddwyr cadeiriau olwyn drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu ar gyfer pobl a hoffai roi cynnig ar gamp ymarfer ysgafn yn ogystal â bod yn fwy hygyrch i bobl nad ydynt yn gallu fforddio ffioedd aelodaeth.

Prosiectau a Gymeradwywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig - Cymunedau Cynaliadwy