Llifoleuadau Clwb Rygbi Felin-foel

Ymgeisydd y prosiect: Clwb Rygbi Felin-foel

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Felin-foel

Yn flaenorol mae Clwb Rygbi Felin-foel wedi gorfod diffodd eu llifoleuadau oherwydd pryderon ynghylch eu diogelwch. Mae hyn wedi effeithio ar lawer o bobl gan ei fod wedi atal plant ac oedolion rhag manteisio ar gyfleoedd hyfforddi yn eu hardal leol. Mae'r prosiect hwn wedi gosod bylbiau LED a gwifrau trydanol newydd ar y llifoleuadau ar gaeau chwarae Brenin Siôr V.

Prosiectau a Gymeradwywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig - Cymunedau Cynaliadwy