Fframwaith Cyflenwyr Argraffu ac ArwyddionEbrill 2026 – Mawrth 2030
Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2025
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd cyflenwyr i ymuno â Fframwaith Argraffu ac Arwyddion agored sy'n dechrau ym mis Ebrill 2026. Bydd y Fframwaith yn rhedeg am 4 blynedd i ddechrau, gydag opsiwn i ymestyn am hyd at 4 blynedd ychwanegol, yn amodol ar argaeledd y gyllideb, perfformiad boddhaol, a chydgytundeb.
Mae'r fframwaith wedi'i rannu i 6 lot penodol, gan alluogi'r cyflenwyr i gyflwyno tendr ar gyfer un lot neu nifer o lotiau. Bydd pob lot yn cael ei gwerthuso ar wahân yn ystod y broses dendro:
Lot 1: Argraffu Digidol a Litho (e.e., cardiau busnes, taflenni, tystysgrifau, posteri, papur pennawd) gan gynnwys plygu a meintiau unigryw
Lot 2: Amlenni wedi'u Hargraffu (meintiau C5, C4, DL, gydag arwyddlun a chyfeiriad dychwelyd)
Lot 3: Eitemau Hyrwyddo (pennau ysgrifennu, mygiau, laniardau, ymbarelau)
Lot 4: Setiau NCR (gyda data amrywiol, rhifo dilyniannol ac opsiynau ar gyfer tyllau)
Lot 5: Graffeg Cerbydau (o lythreniadau syml wedi'u torri o finyl i graffeg llawn ar gerbydau)
Lot 6: Fformat Mawr ac Arwyddion (baneri, deunydd ar gyfer arddangosfeydd, graffeg finyl, paneli arwyddion, arwyddion wedi'u gosod ar byst, llythrennau 3D)
Bydd y cyfle i dendro'n cael ei hysbysebu ddechrau mis Medi 2025. I gael rhagor o fanylion, ewch i'r platfform Gwerthwchi Gymru.
Mae cyflwyniad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad hefyd ar gael i'w lawrlwytho.
Tendrau a Chontractau
Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro
- Ar beth yr ydym ni'n gwario ein harian?+
- Ble a gyda phwy mae ein harian yn cael ei wario?
- Sut yr ydym ni'n prynu
- Pa reolau, rheoliadau a gweithdrefnau caffael yr ydym yn eu dilyn?
- Sut mae'r broses dendro yn gweithio?
- Ble yr ydym yn hysbysebu ein cyfleoedd contract?
- Beth sydd wedi'i gynnwys yn y Dogfennau Tendro?
- Awgrymiadau ar Dendro - Pethau i'w gwneud ac i beidio â'u gwneud
- Digwyddiadau Ymgysylltu â Chyflenwyr
- Beth alla i ei baratoi'n rhagweithiol ar gyfer Tendr?
- Geirfa Caffael
- Cyngor a chymorth