Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyrddin

Po hiraf y gallwn gael y 2.32 miliwn o ymwelwyr a ddaeth i Sir Gaerfyrddin yn 2021 i aros, mwyaf o arian y byddan nhw'n ei wario yn ein heconomi leol. Po fwyaf y cânt wybod am ein harfordir a'n cefn gwlad, safleoedd hanesyddol, anturiaethau actif ac amrywiaeth anhygoel o fwyd a diod, mwyaf y byddant am aros, mwynhau ac, wrth gwrs, gwario.

Maei ni i gyd chwarae rhan ragweithiol yn hyn. Os yw ymwelydd wedi mwynhau eich gwasanaeth neu wedi ymweld â'ch ardal, dywedwch wrtho am rywun arall. Os yw wedi mwynhau Llanymddyfri, cymerwch amser i werthu profiad Llandeilo neu Gaerfyrddin iddo. Os bydd yn penderfynu aros am noson ychwanegol, gall hynny olygu gwariant ychwanegol mewn bwyty neu dafarn, yn ogystal â'r llety ei hun.

Er mwyn helpu i gynyddu eich gwybodaeth am ein sir fawr ac amrywiol, rydym wedi datblygu'r Cynllun Llysgennad, gan ddarparu modiwlau ar amrywiaeth o bynciau allweddol, gan gynnwys eich tref benodol chi. Mae pob modiwl yn cynnwys testun, fideos a delweddau, ac mae cwis hwyliog ar y diwedd am y cynnwys.

Byddwch yn Llysgennad Twristiaeth swyddogol unwaith y byddwch wedi cwblhau'r lefel Efydd gychwynnol, sy'n cynnwys tri modiwl, ac anfonir tystysgrif i'w lawrlwytho atoch, ynghyd ag eicon tystysgrif i'w ddangos ar eich cyfryngau cymdeithasol. Bydd angen i chi basio rhagor o fodiwlau i gyrraedd y lefelau Arian ac Aur a bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau (mae rhai ohonynt ychydig yn fyrrach/hirach ac mae cyfleoedd i ail-wneud unrhyw fodiwlau).

Sut i gofrestru
Mae cofrestru'n gyflym ac yn hawdd (ac AM DDIM). Gall unrhyw un gymryd rhan yn y cwrs, o ddarparwyr llety ac atyniad i staff blaen tŷ mewn siop neu gaffi, myfyrwyr, wardeiniaid traffig, tywyswyr teithiau, trefnwyr digwyddiadau, gwirfoddolwyr, ac ati.

Manteision bod yn Llysgennad Twristiaeth

I unigolion

  • Dyfnhau eich gwybodaeth am eich ardal leol
  • Darparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid
  • Rhoi hwb i'ch hyder i rannu gwybodaeth gydag eraill
  • Dysgu sgiliau newydd i'w hychwanegu at eich CV
  • Cyfle i ddathlu eich angerdd am ein sir brydferth
  • Rhannu syniadau ac arfer gorau fel rhan o grŵp diddordeb ehangach

I fusnesau / sefydliadau

  • Cynnig rhaglen sefydlu barod ac am ddim i staff
  • Cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus gan ddefnyddio'r achrediad
  • Helpu i gynyddu ffyddlondeb ac ymweliadau mynych gan gwsmeriaid
  • Chwarae rhan mewn rhoi hwb i wariant yn eich ardal leol

COFRESTRU I FOD YN LLYSGENNAD TWRISTIAETH SIR GAERFYRDDIN