Ngwobrau Twristiaeth Sir Gâr
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/12/2024
Yn dathlu'r gorau o blith y goreuon yn sector twristiaeth y sir, cynhaliwyd Gwobrau Twristiaeth Sir Gâr ym mis Tachwedd 2024 gydag 11 o wahanol categorïau.
Wedi'u trefnu gan Gymdeithas Twristiaeth Sir Gâr a'u cefnogi gan dîm Cymunedau am Waith a Mwy y Cyngor Sir, rhoddwyd gwybod i'r enillwyr mewn dathliad a gynhaliwyd yng Ngwesty a Bwyty'r Plough yn Rhos-maen.
Mae enillwyr pob categori yn mynd i gystadlaethau rhanbarthol De-orllewin Cymru ym mis Rhagfyr 2024, ac os ydynt yn llwyddiannus byddant yn cael eu beirniadu yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yng ngwanwyn 2025.
Dyma enillwyr gwobrau Sir Gâr 2024:
1. Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol | Stangwrach Cottages
2. Y Gweithgaredd, y Profiad neu'r Daith Orau | Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
3. Yr Atyniad Gorau | Y Tîm Amgueddfeydd a'r Celfyddydau, Cyngor Sir Caerfyrddin
4. Y Gwely a Brecwast, y Dafarn a'r Gwesty Gorau | Glangwili Mansion Luxury Bed and Breakfast
5. Y Safle Carafanio a Gwersylla Gorau | Parc Gwledig Pen-bre, Cyngor Sir Caerfyrddin
6. Y Busnes Gorau sy'n Croesawu Cŵn | Basel Cattage Holidays
7. Y Digwyddiad Gorau | Gŵyl Lenyddiaeth Llandeilo
8. Y Gwesty Gorau | Gwesty a Bwyty'r Plough
9. Y Lle Gorau i Fwyta | Gwesty a Bwyty'r Plough
10. Y Ddarpariaeth Hunanarlwyo Orau | Cambrian Cottages
11. Bro a Byd - Mynd yr ail filltir | Cambrian Cottages