Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes Sir Gâr 2024
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/09/2024
Gan fod twristiaeth bellach werth dros £1/2biliwn i economi Sir Gaerfyrddin, drwy gydol yr haf bydd tîm datblygu twristiaeth y Cyngor Sir yn teithio ar draws y sir i gwrdd â busnesau a grwpiau cymunedol.
Mae slotiau y gellir eu harchebu bellach ar gael ar gyfer y sioeau teithiol gyda'r cyfle i gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir, i gynnig cyngor busnes a fydd yn ymdrin â phob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes; o drwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau yn ogystal â chymorth marchnata.
Cynhelir y sioe deithiol nesaf ar 18 Gorffennaf yn Neuadd Goffa Llansteffan. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael oherwydd capasiti’r lleoliad felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud apwyntiad. Gallwch archebu sesiynau ymlaen llaw a maent ar gael fel sesiynau un i un neu fel grŵp. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10:00am ac yn gorffen am 6.30pm.
Hefyd i'w gweld mae diweddariadau ar y gwaith o wella Maes Parcio Grîn Gogledd Llansteffan, sy'n cael ei gefnogi gan gyllid Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.
Drwy gydol y sesiwn bydd swyddogion arbenigol y Cyngor yn cynnig cyngor busnes am ddim sy'n berthnasol i'ch busnes. Bydd y Tîm Twristiaeth wrth law i archwilio sut y gallwch weithio gyda'r Cyngor ar ymgyrchoedd, cyfleoedd ffilmio, digwyddiadau busnes, a chyngor ac arweiniad mewn perthynas â rheoliadau a chyllid statudol.
Gall mynychwyr hefyd ddysgu am y cynlluniau diweddaraf ar gyfer themâu marchnata 2023-24 Cyngor Sir Caerfyrddin a chael blas ar yr ymgyrchoedd a'r cynnwys creadigol sydd wedi'u trefnu yn ein calendr ar gyfer y flwyddyn. Byddwn hefyd yn rhannu newyddion am sut rydym yn symud tuag at integreiddio digidol gwell o'n gwefannau twristiaeth a'n gwefannau sy'n wynebu busnesau. Dewch i ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan!
Gallwn gynnig awgrymiadau ar y math o wybodaeth sydd ei hangen ar y cyfryngau ar gyfer erthyglau teithio, cyllid sydd ar gael yn eich ardal chi, a rhannu ein profiad o weithio gyda Chroeso Cymru a Visit Britain.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin bortffolio eang o grantiau a benthyciadau ar gael i ddatblygwyr a pherchnogion busnes, dewch i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i chi a'ch busnes. Mae cyfleoedd ar gael drwy'r gronfa Ffyniant Gyffredin, y Gronfa Dechrau Busnes, Cronfa Adnewyddu Canol Trefi Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes, a'r Gronfa Tyfu Busnes. Bydd cymorth ac arweiniad hefyd ar gyllid sydd ar gael i fusnesau gwledig.
Gall tîm Cymunedau am Waith a Mwy Cyngor Sir Caerfyrddin eich cynorthwyo i lenwi eich swyddi gwag a chwalu'r rhwystrau i rolau ym maes lletygarwch a thwristiaeth.
Os ydych yn cynllunio digwyddiad, yn rhedeg sefydliad trwyddedig neu'n bwriadu casglu rhoddion elusennol ar y stryd, bydd swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin wrth law i helpu.
Bydd cyngor yn cael ei roi gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth gwastraff newydd ynghyd â gwybodaeth am fentrau Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (LEQ) fel y byrddau sesiynau codi sbwriel 2 funud.
Bydd arweiniad a chefnogaeth ar gyfer mentrau cymunedol, gwirfoddol, elusennol a chymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd swyddogion hefyd yn gallu rhannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin o raglen Arfor ac yn esbonio sut y gellir cefnogi pobl ifanc ledled y sir i ddatblygu syniadau busnes newydd, cael gwaith a datblygu gweithgareddau cymdeithasol yn eu hardal sy'n cefnogi'r Gymraeg.
Bydd y sioeau teithiol Twristiaeth a Busnes yn cynnig ystod eang o arbenigedd perthnasol i'ch helpu i redeg eich busnes - p'un a ydy eich busnes wedi ei hen sefydlu ac rydych yn chwilio am gyfleoedd newydd neu a ydych yn ystyried sefydlu yn y diwydiant ac angen awgrymiadau i'ch helpu ar eich ffordd.
Rydym yn dod ag amrywiaeth eang o arbenigedd ynghyd, o dan yr un to - gan roi cyfle i fusnesau Sir Gaerfyrddin fanteisio ar gyngor arbenigol am gyllido, busnes, grantiau, rheoli gwastraff, trwyddedu a chymorth digwyddiadau - mewn ychydig oriau i ffwrdd o'ch busnes, yn hytrach na diwrnodau neu wythnosau o ymchwilio a'r gwaith dilynol.
Mae'r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim i'w mynychu, ond rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu eich lle, e-bostiwch Twristiaeth@sirgar.gov.uk gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
• Eich enw ac enw'r busnes
• Pa ymgynghorwyr yr hoffech drefnu apwyntiad gyda nhw (gallwch ddewis nifer yr ymgynghorwyr.)
• Faint o'r gloch y gallwch gyrraedd, a pha amser yw'r diweddaraf y gallech ei adael.
Wedyn byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau pob un o'r amseroedd ar eich archeb.
Rhaid archebu'r holl sesiynau ymlaen llaw. Gan fod y lleoedd yn gyfyngedig, rydym yn eich cynghori i archebu cyn gynted â phosibl i warantu eich lle.
Ariennir y fenter dwristiaeth hon gan gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin.