Canllaw gwastraff ac ailgylchu yn ymwneud â digwyddiadau

Chwiliwch am wasanaethau gwastraff masnachol/busnes yn eich ardal chi

Edrychwch i weld pa fathau o wastraff y gall contractwyr trwyddedig ei gasglu yn eich ardal chi, a beth y gellir ei ailgylchu.

Mae casglu ailgylchu yn aml yn rhatach na thirlenwi felly dewiswch gontractwr sy'n gallu ailgylchu amrywiaeth o fathau o wastraff sy'n addas i'ch anghenion a siopwch o gwmpas.

Bydd deddfwriaeth yng Nghymru ar gyfer busnesau yn y dyfodol yn gwahardd peth gwastraff y gellir ei ailgylchu o safleoedd tirlenwi, ac yn gofyn am wahanu eitemau allweddol er mwyn eu hailgylchu.

Meddyliwch cyn dewis neu gynghori stondinwyr ar ddefnyddio eitemau bioddiraddadwy neu y gellir eu compostio. Os nad oes seilwaith i'w casglu nhw ar wahân ac yna eu prosesu nhw, byddant yn y pen draw yn gymysg â gwastraff arall na ellir ei ailgylchu a mwy na thebyg yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae bioddiraddadwy yn derm cyffredinol ac yn syml yn golygu y bydd cynnyrch yn torri i lawr mewn tir, aer neu ddŵr dros gyfnod amhenodol a allai fod yn flynyddoedd. Os yw cynnyrch yn cynnwys logo compost gyda safon EN 13432 yna mae angen proses gompostio ddiwydiannol ar gyfer hynny. Mae angen cadw'r eitemau hyn ar wahân i unrhyw eitemau gwastraff y mae modd eu hailgylchu neu gallent eu halogi nhw a'u hatal nhw rhag cael eu hailgylchu.


DOD O HYD I GLUDWR TRWYDDEDIG