Cyngor a chymorth ynghylch llesiant meddyliol
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/10/2024
Mae iechyd meddwl, yn union fel iechyd corfforol, yn gyflwr sy'n effeithio ar bob un ohonom, ac mae'n rhywbeth y dylem feddwl amdano. Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn, ac mae ymchwil yn awgrymu y bydd 1 o bob 4 ohonom yn profi iechyd meddwl gwael mewn unrhyw flwyddyn. Mae salwch meddwl yn cyfeirio at ystod eang o gyflyrau sy'n effeithio ar eich hwyliau, eich meddwl a'ch ymddygiad. Ymhlith enghreifftiau o gyflyrau iechyd meddwl y mae anhwylderau gorbrder, iselder, sgitsoffrenia, anhwylderau deubegynol, anhwylderau bwyta ac ymddygiadau caethiwus.
Cymorth a chefnogaeth
Mae nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch iechyd meddwl.
Mae Gweithredu Gorllewin Cymru dros Iechyd Meddwl yn sefydliad gwirfoddol, elusen, a chwmni cyfyngedig drwy warant sy'n cefnogi mudiadau gwirfoddol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl.
Mae MIND yn rhoi cyngor a chymorth ac yn anelu at rymuso unrhyw un sy'n cael problem o ran eu hiechyd meddwl.
Llinell Ffôn Gymorth: 0300 123 3393.
Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru. Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol, sy'n cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth gyfrinachol.
Rhadffôn: 0800 132 737 or
Testun: 81066
Yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth am ddim i aelodau Siediau Dynion, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Cyngor clir, ymarferol a chefnogaeth i bobl sy'n dioddef problemau gyda iechyd meddwl ac arian.
Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc.
Elusen genedlaethol sy'n helpu plant a phobl ifanc, yn eu cefnogi gyda heriau iechyd meddwl.
Cefnogaeth emosiynol i'r rhai sy'n profi teimladau o ofid neu anobaith, gan gynnwys y rhai a allai arwain at hunanladdiad.
Ffôn: 116 123