Cyswllt cynllunio priffyrdd
Diweddarwyd y dudalen ar: 16/07/2025
Bydd y tîm cyswllt cynllunio priffyrdd yn:
- Cynorthwyo ag ymholiadau cyn cynllunio statudol a gyflwynir drwy'r adran Cynllunio ni.
- Lle bo'n briodol, rhoi cyngor ac argymhellion i'r Awdurdod Cynllunio Lleol fel ymgynghorai statudol ar oblygiadau cynigion datblygu o ran priffyrdd a thrafnidiaeth.
- Lle bo'n briodol, darparu ymatebion i ymgynghoriadau cyn ymgeisio (PAC).
Ni fydd y tîm cynllunio priffyrdd yn gallu cynorthwyo o ran y canlynol:
- Darparu gwasanaeth dylunio
- Gwneud y penderfyniad terfynol ar geisiadau cynllunio, gwneir hyn gan y tîm cynllunio
- Delio â mabwysiadu ffyrdd
- Delio â chwiliadau priffyrdd
- Gweithredu terfyn cyflymder 20mya (Strydoedd Mwy Diogel)
Lluniwyd y Canllaw Dylunio Priffyrdd gyda'r bwriad o nodi ei ddisgwyliadau o ran datblygiadau newydd yn y sir. Mae'n rhoi arweiniad i ddatblygwyr ac ymgeiswyr ar baratoi cynigion trafnidiaeth a darparu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth i gefnogi datblygiadau newydd. Mae hefyd yn nodi'r gofynion cysylltiedig yn ystod y cynllunio a'r adeiladu.
Mae'r Canllaw Dylunio Priffyrdd yn darparu gwybodaeth gyson ac yn cyflymu'r broses ymgeisio. Fel y nodwyd uchod, ni all y tîm cyswllt cynllunio priffyrdd roi mewnbwn uniongyrchol ynghylch dylunio, felly argymhellir bod ymgeiswyr a/neu'u hasiantau yn cyfeirio at y ddogfen hon ar y cyfle cyntaf i lywio eu cynigion.
Mae'r ddogfen hon i gynorthwyo:
- Datblygwyr
- Ymgeiswyr
- Rhanddeiliaid
Bydd yn eich galluogi i ddeall a chymhwyso pob agwedd ar y canlynol:
- Effeithiau posibl ar briffyrdd
- Dylunio priffyrdd
- Cymhwyso canllawiau polisi lleol a chenedlaethol priodol
Bydd y canllaw dylunio yn rhoi eglurder ynghylch y canlynol:
- Lleiniau gwelededd
- Lleoedd parcio
- Garejis
- Un pwynt mynediad
- Un pwynt mynediad a chilfan
- Mynediad amaethyddol
- Ffurfio mynedfa
- Trofyrddau cerbydau
- Cynllunio ystad breswyl
Anfonwch unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chynllun datblygiadau drwy e-bost i HwbCynllunio@sirgar.gov.uk.
Isod, ceir rhai enghreifftiau o'r ystyriaethau y bydd y tîm cyswllt cynllunio priffyrdd yn eu gwneud wrth asesu cynigion datblygu:
- Effaith y cynnig ar ddiogelwch priffyrdd
- Cydymffurfiaeth â'r canllaw dylunio priffyrdd
- Cydymffurfiaeth â safonau a pholisïau lleol a chenedlaethol
- Capasiti'r rhwydwaith priffyrdd ehangach nawr ac yn y dyfodol
- Cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Teithio Llesol
- Hygyrchedd y safle gan ddefnyddio pob math o drafnidiaeth
- Parcio ar gyfer cerbydau di-fodur a cherbydau modur
- Mesurau lliniaru mewn perthynas ag unrhyw effeithiau
- Cynlluniau teithio
O ran ymholiadau ynghylch priffyrdd a thrafnidiaeth nad ydynt yn ymwneud â chais cynllunio, ewch i'n tudalennau ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio.
Mae’r polisi hwn yn nodi’r disgwyliadau a’r gofynion ar gyfer systemau draenio dŵr ffo sy’n gysylltiedig â datblygiadau newydd sydd wedi’u lleoli o fewn y briffordd ac sydd i’w hyrwyddo i’w mabwysiadu gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu sy’n gysylltiedig â systemau draenio priffyrdd presennol.
Mae'r ddogfen hon, sy'n ymwneud â draenio priffyrdd, wedi'i drafftio i ategu'r Canllaw Dylunio Priffyrdd.
Mae'r dull a fabwysiadwyd yn cefnogi egwyddorion dylunio ac adeiladu systemau draenio trefol cynaliadwy.
Bwriedir i'r broses a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod i ymdrin â cheisiadau i ollwng dŵr wyneb i'r Draenio Priffyrdd fod yn hollgynhwysol, ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad yw'r un ddau ddatblygiad yr un fath, gyda rhai yn cynnig mwy o gyfyngiadau nag eraill.
Hefyd, cyn neu wedi’ch cyfeirio at y broses gais SAB, efallai y byddwch am geisio cyngor ynghylch y posibilrwydd o ryddhau o’r fath, heb ffurfioli’r cais yn gyntaf.
Felly, petaech yn dymuno trafod unrhyw gynllun cyn gwneud cais, gellir darparu gwasanaeth cyn ymgeisio am ffi y cytunwyd arni. I drafod hyn ymhellach cysylltwch HighwayDrainConnect@carmarthenshire.gov.uk
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
Croeso i'w Hwb cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
Rheoli Maetholion mewn Cynllunio a Datblygu
- Byrddau Rheoli Maetholion
- Cyfrifiannell Cymru
- Effaith Canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar Asesiadau Amonia
- Asesiadau Cyflwr Morol (2024)
- Asesiad Cydymffurfiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru 2024 a Dalgylchoedd Afonydd Sir Gaerfyrddin
- Cwestiynau Cyffredin